Care Home Categories: Nursing and Residential
Mae Affalon House yn adeilad cyfnod dau lawr deniadol, a gofrestrwyd yn gyntaf fel cartref gofal gyda nyrsio ar 11 Awst 1989. Mae wedi'i leoli'n agos i ganol tref Llanelli ac mae modd ei gyrraedd yn hawdd drwy drafnidiaeth gyhoeddus a chysylltiadau ffyrdd ardderchog, gan gynnwys yr M4.
Mae cymuned Gymreig glos ble mae gwerthoedd teulu traddodiadol yn parhau'n gryf ac mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf i nifer o aelodau'r gymuned. Mae nifer o'r aelodau staff yn dod o'r ardal leol ac yn gallu cyfathrebu â defnyddwyr y gwasanaeth yn eu hiaith ddewisol. Mae gwerthoedd, diwylliant a chysylltiadau rhwng teuluoedd a ffrindiau yn cael eu hannog a'u gwerthfawrogi.
Mae pobl yn cael eu hannog i ddewis addurniadau ar gyfer eu hystafell bersonol sydd yn unol â’u chwaeth. Caiff bwyd traddodiadol ei goginio a'i weini gan staff cegin â chymwysterau addas o dan gyfarwyddyd deietegydd. Rydym yn cyflogi trefnydd gweithgareddau, sy'n cadw pob un o'n defnyddwyr gwasanaeth yn brysur ac wedi'i ddiddanu. Mae gennym driniwr gwallt sy’n ymweld ac mae diddanwyr a cherddorion lleol yn perfformio yn y cartref yn rheolaidd.
Rydym yn cyflogi chwe nyrs amser llawn sydd yn brofiadol iawn ym mhob agwedd ar ofal dementia, yn ogystal â thîm o weithwyr cymorth sydd oll â chymwysterau perthnasol neu'n gweithio tuag atynt.