Care Home Category: Residential

Mae Belvedere House yn gartref i 19 o breswylwyr ac mae'n cynnwys tŷ mawr o'r 19eg ganrif sydd wedi cael ei ymestyn a'i foderneiddio i ddiwallu anghenion ein preswylwyr. Mae'r holl ystafelloedd wedi eu dodrefnu a'u haddurno i safon uchel. Gall yr ystafelloedd gael eu personoli gan y preswylwyr a'u teuluoedd a ffrindiau i greu amgylchedd mwy cyfarwydd a chartrefol. Rydym yn darparu gofal dydd, gofal seibiant a gofal hirdymor i unigolion sydd â phob cam o ddementia. Caiff pob unigolyn ei asesu am anghenion gofal cyfredol a phosibl parhaus cyn iddo gael ei dderbyn i sicrhau y gallwn ddarparu'r lefel o ofal sy'n ofynnol ar gyfer yr unigolyn. Rhoddir amser i'r unigolyn a'i berthnasau a ffrindiau i gasglu hanes personol er mwyn sicrhau ein bod yn llunio darlun cyflawn o'r unigolyn a'i fywyd. Mae hyn yn caniatáu i staff gofal ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a meithrin cysylltiadau ystyrlon â'r unigolyn. Mae'r cartref wedi'i addasu i ganiatáu i unigolion symud ledled y cartref yn annibynnol neu gyda chymorth os yw'n ofynnol. Ceir lifft i deithwyr a lifft grisiau i ddarparu mynediad at y llawr cyntaf yn y cartref. Mae'r staff yn derbyn hyfforddiant trin pobl yn rheolaidd i sicrhau bod cymhorthion ac offer yn cael eu defnyddio'n gywir ac yn ddiogel. Rydym yn asesu anghenion symudedd pob unigolyn o leiaf bob mis i sicrhau bod modd diwallu anghenion symudedd cyfredol a pharhaus posibl, a gofynnir am gyngor arbenigol gan ffisiotherapyddion cymunedol os oes angen mewnbwn ychwanegol. Mae nam deuol neu sengl ar y synhwyrau yn ffactor cyffredin gyda'r henoed. Rydym yn rhoi cymorth i unigolion i fynychu apwyntiadau clywedeg a chynnal a chadw'r cymhorthion clyw a ddarperir. Caiff yr uwch-aelodau o staff eu hyfforddi ynglŷn â sut i gynnal a chadw cymhorthion clyw a sicrhau eu bod yn gweithio'n dda. Mae ymweliadau cartref rheolaidd oddi wrth Vision Call (offthalmolegwyr) yn digwydd drwy gydol y flwyddyn, gan sicrhau bod gan yr holl unigolion fynediad at brofion llygaid blynyddol a chyfnewid sbectolau yn ôl yr angen. Bydd Vision Call yn atgyfeirio unigolion at wasanaethau offthalmoleg arbenigol ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda os oes unrhyw bryderon yn cael eu mynegi, a gallant hefyd drefnu cofrestru unigolion sydd wedi colli eu golwg yn llwyr neu'n rhannol. Caiff cynlluniau gofal unigol eu teilwra i adlewyrchu nam ar synhwyrau unigolion, ac mae amgylchedd y cartref yn cael ei adolygu'n rheolaidd i nodi a gwella ardaloedd a allai beri risg i unigolion sydd â nam ar y synhwyrau. Mae'n ofynnol i'r holl staff gwblhau hyfforddiant ar gyfathrebu effeithiol, ac mae hyn yn cynnwys cyfathrebu pan fod nam ar y synhwyrau. Rydym yn dod ar draws llawer o unigolion lle y bo ynysu cymdeithasol yn un o'u hanghenion mwyaf. Gall amgylchedd byw cymunol fod yn brofiad dychrynllyd iawn. Rydym yn gweithio gydag unigolion er mwyn nodi ffyrdd o sut i oresgyn y gorbryder a'r pryderon sy'n gysylltiedig â lleoliad gofal preswyl. Rydym yn croesawu unrhyw unigolyn sydd â diddordeb i ymweld â'r cartref yn ddirybudd. Yn ychwanegol, rydym yn cynnig iddynt dreulio amser yn y cartref fel ymwelydd i fwynhau pryd o fwyd neu ymuno â gweithgaredd er mwyn caniatáu iddynt brofi'r amgylchiadau cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â phreswylio neu ofal dydd. Yn dilyn derbyniad, rydym yn cymryd amser i ddod i adnabod yr unigolyn a chaniatáu iddo osod y cyflymder o ran integreiddio i fywyd y cartref. Rydym yn deall bod rhai pobl yn barod i gymysgu'n gymdeithasol ynghynt nag eraill. Caiff pob unigolyn rydym yn gofalu amdano y rhyddid i ddewis sut mae’n treulio ei ddiwrnod. Gall ein cegin arlwyo ar gyfer yr holl anghenion dietegol arbenigol, gan gynnwys alergeddau ac anoddefiadau bwyd, diabetig neu siwgr isel, a deietau cyfnerthedig, meddal, llysieuol a figan. Caiff prydau bwyd eu paratoi yn ffres bob diwrnod ac mae staff y gegin yn cysylltu ag unigolion ynglŷn â'u chwaeth a hoffterau. Ar hyn o bryd, mae gan ein cegin ddyfarniad o bum seren gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Darperir hyfforddiant hylendid bwyd i'r holl staff, ac mae llawer yn cyrraedd lefel dau mewn diogelwch bwyd. Mae maethiad a hydradiad da yn ganolbwynt i'n darpariaeth gofal ac mae gan staff gofal fynediad er mwyn paratoi bwyd a diodydd i unigolion drwy’r amser yn ystod y dydd a'r nos.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.