Care Home Categories: Nursing and Residential

Mae Blaenos House wedi'i leoli ynghanol cefn gwlad gorllewin Cymru ychydig y tu allan i dref farchnad Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, gyda mynediad hawdd at Aberhonddu, Caerfyrddin a'r ardaloedd cyfagos. Mae'r cartref yn gyfleus ar gyfer nifer o gyfleusterau lleol fel siopau, tafarndai, llyfrgell, parc / lawnt fowlio a llwybrau bws a thrên. Mae'r cartref yn cael ei ailwampio ymhellach i wella'r llety a gynigir yn ein hystafelloedd sengl. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo i'w wneud yn fwy cyfeillgar i ddementia a darparu mwy o ysgogiad synhwyraidd ar gyfer y preswylwyr sy'n byw yma. Ychwanegwyd heulfan hefyd gyda golygfeydd trawiadol dros Fannau Brycheiniog. Mae gennym gyfanswm o 38 gwely ac mae'r cartref yn cynnig amrediad o ystafelloedd ymolchi a thoiledau â chymorth, gan gynnwys ystafell gawod. Y tu allan mae gennym batio a gardd lle y gellir gweini prydau bwyd a diodydd ac mae'r adeilad yn hygyrch drwy rampiau a lifft. Mae oddeutu dwy ran o dair o'n preswylwyr o orllewin Cymru lle y bo'r Gymraeg yn famiaith iddynt. Cymraeg yw mamiaith llawer o'n staff hefyd. Gofal Mae Blaenos House yn cael ei staffio gan nyrsys seiciatrig cofrestredig a nyrsys cyffredinol cofrestredig. Rydym yn darparu gofal nyrsio dementia ar gyfer pobl sydd â dementia a phroblemau iechyd meddwl hirdymor yn y boblogaeth henoed. Rydym yn croesawu atgyfeiriadau ar gyfer cleientiaid preifat.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.