Care Home Category: Residential

Mae Bryn Illtyd yn gartref gofal sefydledig, wedi'i leoli ar ei diroedd preifat a thirluniedig ei hun mewn safle uchel, gyda golygfeydd panoramig yn edrych dros Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr. Mae'r adeilad yn dyddio i ddechrau'r ugeinfed ganrif a chafodd ei addasu’n gartref gofal preifat a'i gofrestru’n gyntaf yn 1986. Mae Bryn Illtyd wedi'i leoli ym mhentref Cymreig bychan Pen-bre, rhwng dwy prif dref Sir Gaerfyrddin, sef Caerfyrddin a Llanelli. Mae Pen-bre yn darparu mynediad hawdd at amwynderau lleol a gwasanaethau cymunedol gyda chysylltiadau bysiau a threnau i draffordd yr M4. Mae yno gymuned Gymreig glos iawn ble mae gwerthoedd teulu traddodiadol yn parhau'n gryf. Caiff y gwerthoedd a'r cysylltiadau hyn rhwng teuluoedd a ffrindiau eu hannog a'u gwerthfawrogi yn y cartref. Mae Bryn Illtyd yn gweithredu fel cwmni cyfyngedig ac mae wedi'i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o dan delerau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i ddarparu hyd at 39 o leoedd ar gyfer dynion a menywod sydd angen gofal personol ac sydd ag anghenion gofal dementia ac sy’n 50 oed neu'n hŷn. Gallai un unigolyn sy'n iau na 50 oed (os oes modd diwallu ei anghenion) gael lle hefyd. Gallai unrhyw un sy'n iau na 50 oed, neu sydd ag anghenion y tu hwnt i'n categori cofrestru, gael ei ystyried ar sail unigol a dim ond drwy ystyriaeth arbennig gan AGC i amrywio'r cofrestriad dros dro.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.