Care Home Category: Residential

Mae Brynhelyg wedi'i leoli ar dir preifat eang ym mhentref Bynea, pedair milltir o ganol tref Llanelli. Mae wedi'i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i ddarparu ar gyfer 25 o breswylwyr sydd ag amrediad o anghenion, yn amrywio o rhai preswyl, henoed bregus eu meddwl, anhwylderau iechyd meddwl, nam ar eu golwg a chlyw, bregus a methedig, gyda chymorth ar gyfer anghenion meddygol arbennig. Rydym yn darparu gwasanaeth ar gyfer 12 preswylydd preswyl ac 13 preswylydd sy'n henoed bregus eu meddwl, gydag 18 ystafell sengl a thair ystafell ymolchi en suite. Rydym yn darparu gwasanaeth yn bennaf i'r henoed ond gallwn ddarparu ar gyfer preswylwyr sy'n 18 oed neu'n hŷn, cyhyd â bod yr asesiadau risg priodol yn foddhaol a gall y cartref ddiwallu eu hanghenion. Mae gan y cartref fynediad at bob sefydliad proffesiynol sy'n cefnogi anghenion meddygol/gofal ein preswylwyr. Mae gennym driniwr gwallt mewnol, pedwar cydgysylltydd gweithgareddau a phodiatrydd profiadol. Mae Brynhelyg yn gartref gofal sefydledig sy'n canolbwyntio ar ofal yr unigolyn ac mae’n cael ei reoli gan reolwr profiadol gyda chymorth dirprwy reolwr a staff gofal sy'n gwbl gymwys ac sydd wedi gweithio yn y cartref hwn am nifer o flynyddoedd. Mae staff Brynhelyg wedi'i hyfforddi ac yn brofiadol ym maes dementia, ac mae gennym eiriolwyr dementia mewnol. Mae gennym ddau ben-cogydd ac mae'r holl fwyd yn fwyd cartref a bodlonir gofynion arbennig.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.