Care Home Category: Residential

Mae Caemaen yn gartref gofal pwrpasol a agorwyd yn 1984. Dros y blynyddoedd y mae wedi elwa ar waith gwella ac adnewyddu sylweddol gan ymdrechu bob amser i gynnal llety a chyfleusterau o safon dda i ddiwallu anghenion gofal a chwrdd â disgwyliadau'r bobl sy’n byw yno. Mae'r Cartref wedi'i gofrestru i ddarparu gofal a chymorth ar gyfer hyd at 30 o bobl ar sail barhaol a/neu dros dro. Mae hyn yn cynnwys darparu 2 gwely seibiant a 28 gwely preswyl cyffredinol. Mae'r llety yn cael ei ddarparu ar ddau lawr. Mae cyfleuster Gwasanaeth Dydd hefyd ynghlwm wrth y Cartref sy'n darparu cymorth i oedolion iau. Fodd bynnag, nid yw hyn yn rhan o'r gwasanaeth a gynigir yng Nghartref Gofal Caemaen. Mae'r Rheolwyr a'r Tîm o Staff yn falch o'r gwasanaeth a ddarperir yng Nghartref Caemaen ac yn parhau i ymrwymo i ddarparu gofal o safon uchel, gan gefnogi dyheadau personol Preswylwyr, mewn amgylchedd diogel, cyfforddus a chartrefol er mwyn cyflawni canlyniadau cadarnhaol.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.