Care Home Category: Residential

Yn wreiddiol, roedd Canterbury House yn lleiandy hyfforddi San Ffransis a chafodd ei drawsnewid yn gartref gofal yn 1988/89 gan rieni'r perchennog presennol, Mr a Mrs D. Lawrence. Mae’r cartref yn nhref Aberdaugleddau ac ynghanol y gymuned. Mae'n agos at siopau lleol, theatr/sinema, caffis, cyfleusterau hamdden a marina enwog Aberdaugleddau. Rydym saith milltir o Hwlffordd, ac o fewn pellteroedd byr i’r arfordiroedd trawiadol sydd gan Sir Benfro i'w cynnig. Mae'r adeilad wedi'i leoli yn Priory Road ac mae'n cynnwys dau lawr a chwrt blaen palmantog i'r blaen a gardd fawr i'r cefn ac ardal ddecin y tu allan i'r ystafell fwyta. Mae'r llawr daear yn cynnwys cyntedd, lolfa, lolfa dawel, swyddfa, ystafell fwyta, cegin ystafelloedd gwely 1>5 a 10, dau dŷ bach, ystafell wlyb, storfa fwyd a golchdy/golchfa. Mae'r llawr cyntaf yn cynnwys pen y grisiau, ystafell staff, ystafell ymolchi, toiled, tair ystafell ddwbl ac un ystafell sengl. Mae Canterbury House yn anelu at ddarparu amgylchedd diogel, ymlaciedig a chartrefol i'r rhai sy'n lletya gyda ni, lle y bo gofal a llesiant pobl o'r pwysigrwydd pennaf.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.