Care Home Category: ResidentialCare Home Tags: Daycare, EMI, residential, top 20 in Wales, and welsh language

Cartref gofal preswyl 21 gwely yw Garnant House a leolir ym mhentref y Garnant ar y prif lwybrau bysiau, a dim ond tair milltir o Rydaman a saith milltir o Bontardawe. Yn ogystal â gwelyau preswyl, rydym hefyd yn cynnig lleoliadau ar gyfer henoed bregus eu meddwl. Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi cael ein pleidleisio ymhlith yr 20 cartref gofal gorau yng Nghrymu drwy wefan www.carehome.co.uk am dair blynedd yn olynol o 2016 i 2018. Mae croeso i ddarpar breswylwyr a'u teuluoedd weld ein cartref ar unrhyw adeg – nid oes angen trefnu unrhyw apwyntiad. Rydym yn falch o ddweud bod y rhan fwyaf o'n gofalwyr yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae Garnant House yn aelod o Fforwm Gofal Cymru. Caiff ein bwyd ei baratoi yn ffres bob dydd yn Garnant House. Mae gan breswylwyr ddewis ar adegau prydau bwyd, ac rydym yn arlwyo ar gyfer pob math o hoffterau ac anghenion. Trefnir gwibdeithiau rheolaidd (er enghraifft, i'r Gerddi Botaneg) ac rydym yn defnyddio ein bws mini ein hunan yn ôl y galw. Rydym yn cynnal nifer o weithgareddau mewnol dyddiol ac wythnosol, megis ymweliadau gan driniwr gwallt, ciropodydd a therapydd cyflenwol. Hefyd mae nifer o ddiddanwyr yn ymweld â'r cartref, gan gynnwys sesiynau canu, ymweliadau gan anifeiliaid a digwyddiadau hel atgofion amrywiol. Rydym yn mwynhau dathlu penblwyddi preswylwyr a digwyddiadau arbennig megis ein Diwrnod Agored Cartref Gofal blynyddol a ffair Nadolig.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.