Care Home Category: Residential
Mae Cartref Havenhurst yn darparu cymorth ar gyfer oedolion hŷn sydd â thrafferthion gwybyddol, dementia a phroblemau iechyd meddwl eraill. Mae Havenhurst yn darparu saith gwely asesiad, saith gwely seibiant a chwe gwely gofal hirdymor.
- Mae 20 ystafell wely sengl.
- Nid yw Cartref Havenhurst yn benodol ar gyfer un rhyw.
- Bydd pob unigolyn yn cael asesiad i sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu diwallu ei anghenion.
- Mae Cartref Havenhurst yn cysylltu â Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ddarparu'r gwasanaeth asesu, gan weithio ar y cyd â'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol.
Nid yw Cartref Havenhurst yn darparu gofal nyrsio.
Mae cartref Havenhurst yn anelu at y canlynol:
- Darparu amgylchedd croesawgar, diogel, hapus a gofalgar.
- Darparu awyrgylch cartrefol, cyfeillgar ac ymlaciedig.
- Cynnal safonau gofal uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
- Cefnogi ac annog pobl i fyw bywyd mor llawn a gweithredol ag y bo'n bosibl i osgoi dirywiad.
- Galluogi pobl i gynnal eu hannibyniaeth a llesiant a chanolbwyntio ar y canlyniadau gorau ar gyfer pob unigolyn, gan sicrhau bod bregusrwydd yn cael ei ddiogelu.
- Sicrhau bod gan bob unigolyn y rhyddid i fynegi ei safbwyntiau a'i ddymuniadau ei hunan a sicrhau bod ei hawliau yn cael eu parchu.
- Sicrhau bod pawb yn cael eu trin gyda pharch a chyfrinachedd a chan gynnal preifatrwydd bob amser.