Care Home Category: Residential

Mae'r cartref yn darparu gofal preswyl, seibiant a chanolradd i oedolion hŷn. Mae gennym gyfanswm o 20 gwely, ac mae'r holl ystafelloedd yn rhai sengl. Byddwn yn asesu pob un yn unigol i sicrhau y gallwn ddiwallu eu hanghenion unigol yng Nghartref Hillside. Mae'r gwelyau gofal canolradd yn Hillside yn cysylltu â Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ddarparu gwasanaeth ffisiotherapi a galwedigaethol pwrpasol bob wythnos. Mae'r cartref ar ddau lawr gyda thoiledau, ystafelloedd ymolchi a chawodydd a rennir ar bob llawr. Mae gan bedair o'n hystafelloedd gwely gyfleusterau en suite. Mae Cartref Hillside yn cynnwys cyfarpar a dodrefn i safon gyfforddus ac mae gan bob ystafell wely y canlynol: teledu, radio (gofynnir i ddefnyddwyr gwasanaeth pa un a fyddai'n well ganddynt neu a fyddent yn dymuno'r ddau), systemau rhybuddio staff, cabinetau y gellir eu cloi, gwely sy'n proffilio, cwpwrdd dillad, cist ddroriau, a bwrdd a lamp ar ochr y gwely. Mae dwy lolfa ac ardal fwyta/gweithgareddau fawr. Mae gan y ddwy lolfa ardaloedd â seddi a setiau teledu. Ceir lle parcio i flaen yr adeilad a gerddi yn y cefn lle y bo heulfan fawr hefyd, sy'n edrych dros yr ardd ac yn rhoi golygfeydd o'r môr yn y pellter. Mae'r ystafell fwyta'n cynnwys seddi ar gyfer hyd at 20 o bobl, lle y gallwch ddewis cael eich prydau bwyd. Nid yw'r cartref yn cynnig gofal nyrsio.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.