Care Home Category: Residential

Mae Llandaff House yn gartref preswyl â 21 gwely a adeiladwyd yn bwrpasol yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin. Rydym wedi ein cofrestru ar gyfer 19 unigolyn â dementia a dau leoliad preswyl. Mae ein hystafelloedd yn rhai sengl ac mae cyfleusterau ymolchi ganddynt i gyd ac mae gan wyth ystafell gyfleusterau en suite. Mae'r holl ystafelloedd wedi eu dodrefnu'n llawn. Gall ein holl breswylwyr ddod â'u dodrefn, lluniau ac eitemau personol eu hun i Llandaff House i bersonoli eu hystafelloedd. Ceir tair prif lolfa, ystafell fwyta a heulfan. Y tu allan ceir iard a seddi cysgodol. Mae gan ein cogydd wybodaeth helaeth o ran cefnogi pobl hŷn sydd ag anghenion maeth amrywiol ac ystyrir ddeietau'r holl breswylwyr yn unigol. Caiff yr holl brydau bwyd eu coginio'n ffres bob dydd. Mae ein cydlynydd gweithgareddau yn cwblhau cynllun misol o'r holl weithgareddau a digwyddiadau yn y cartref a chaiff ei arddangos er mwyn i'r holl breswylwyr, perthnasau a ffrindiau gael mynediad ato. Rydym yn cynnig amrediad eang o weithgareddau naill ai mewn grŵp neu un i un, gan gynnwys grwpiau hel atgofion, sy'n arbennig o werthfawr ar gyfer preswylwyr â dementia, celf, coginio, grwpiau ymarfer ysgafn, Côr Llandaff House, diwrnodau sba, adweitheg, ymweliadau gan ddiddanwyr, triniwr gwallt, ymweliad wythnosol oddi wrth y feithrinfa leol a llawer mwy. Caiff ein cynlluniau gofal eu hadolygu'n fisol gyda theulu neu ffrindiau'n cael eu gwahodd i ddiwrnod agored cynllun gofal misol a drefnir gan ein dirprwy reolwr lle y gall pawb adolygu'r cynlluniau gofal a chytuno ar unrhyw newidiadau. Mae'r holl staff yn cael eu hyfforddi i safon uchel. Bydd croeso cynnes i chi yn Llandaff House bob amser.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.