Care Home Category: Residential

Mae Cartref Gofal Preswyl Llys y Bryn yn gartref gofal pwrpasol yng nghymuned y Bryn/Llwynhendy, Llanelli. Lleolir y Cartref mewn ardal breswyl ac mae canolfan tai gwarchod (TÅ·'r Gelli) a chyfleuster gwasanaeth dydd (Gwasanaethau Dydd Croesffyrdd a Llys y Bryn) yn gysylltiedig ag ef. Adeiladwyd y Cartref gwreiddiol ar ddiwedd y 1980au ac mae wedi elwa ar raglen o waith gwella ac ailddatblygu. Ychwanegwyd estyniad yn 2007. Mae Llys y Bryn wedi'i gofrestru i ddarparu llety i 45 o bobl, ac mae'r cyfleusterau wedi eu rhannu'n 3 prif uned sy'n cynnwys 5 adain. Mae Grug, Tywi a Merlyn yn rhan o un uned ar gyfer hyd at 19 o Breswylwyr. Gellir darparu llety i hyd at 14 o Breswylwyr yn Uned Felyn, ac mae'r ddwy uned hyn yn darparu gofal a chymorth hirdymor. Darperir llety i hyd at 12 o Breswylwyr yn adain Llwyngwern a defnyddir 6 gwely ar sail gwasanaeth ailalluogi preswyl byrdymor. Mae pob uned yn darparu gofal a chymorth, yn diwallu anghenion unigol ac yn ymdrechu i gefnogi dyheadau personol.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.