Care Home Category: Residential

Mae Melbourne House wedi bod yn gartref preswyl y sefydliad ers 1996. Mae'r tîm gofal yn ymfalchïo mewn cynnig gwasanaeth gofal proffesiynol iawn ar gyfer yr henoed, gyda dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach na'r rheswm ei fod mewn lleoliad gofal. Mae Melbourne House yn falch o ddarparu ar gyfer pobl y mae arnynt angen gofal hirdymor, gofal byrdymor a hefyd gofal seibiant. Mae pentref Cross Hands yn cynnig digonedd o siopau annibynnol hen a newydd sy'n gwerthu cynnyrch lleol. Mae ganddynt safle diwydiannol newydd sy'n cynnwys popty, siop goffi ac archfarchnad. Mae Cross Hands oddeutu 9.7 milltir o Lanelli, 6.1 milltir o Rydaman a hefyd 12 milltir o Gaerfyrddin, gyda thrafnidiaeth bws i'r holl ardaloedd, ac felly mae'n hygyrch yn hawdd ac yn ganolog i bentrefi/trefi cyfagos. Gall Cartref Gofal Melbourne House ddarparu gofal ar gyfer 23 o ddefnyddwyr gwasanaeth benywaidd neu wrywaidd ar gyfer yr henoed sy'n 65 oed neu'n hŷn. Mae ein staff wedi'u hyfforddi'n benodol mewn gofal dementia fel y gellir cynnig y gwasanaeth hwn. Rydym hefyd yn cynnal gweithgareddau penodol i wella llesiant ein defnyddwyr gwasanaeth. Rydym yn annog y gymuned leol i ddefnyddio ein gwasanaeth fel y gall y defnyddwyr gwasanaeth gadw gymaint o gysylltiadau â phosib â ffrindiau, cymdogion a'u cymuned. Nid oes unrhyw gyfyngiadau neu ffurfioldeb o ran ymweld ac mae croeso i bobl ddiddanu eu teulu a'u ffrindiau ar unrhyw adeg. Rydym yn deall y gall symud i gartref gofal fod yn amser pryderus i bawb sy'n ymwneud â hyn ac rydym yn gweld bod cynnal cysylltiadau yn y modd hwn yn helpu i esmwytháu’r cyfnod pontio. E-bost: Melhouse2224@gmail.com
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.