Care Home Category: Residential

Mae Cartref Preswyl Min-y-môr wedi'i leoli yn nhref arfordirol Aberaeron. Mae'r cartref preswyl wedi'i leoli o fewn pellter cerdded byr i siopau, swyddfa bost, llwybrau bysiau, caffis, bwytai ac amwynderau lleol eraill. Rydym yn darparu gofal a chymorth preswyl i bobl hŷn sydd ag amrywiaeth o anghenion cymhleth, a allai gynnwys dirywiad gwybyddol sy’n gysylltiedig ag oedran a diagnosis cynnar o ddementia. Bydd ein cartref yn gweithio gyda'r preswylydd, ei deulu ac unrhyw ymarferwyr sydd â gwybodaeth arbenigol am y cyflyrau hyn, gan sicrhau bod anghenion a dymuniadau'r unigolyn yn rhan ganolog o'r gwaith cynllunio am ei ofal unigol a’u bod yn cael eu hadolygu'n gyson. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd unrhyw anghenion ychwanegol yn cael eu nodi. Mae'r cartref hefyd yn gweithio'n agos gyda’r meddygon teulu, nyrsys ardal, ffisiotherapydd, therapyddion galwedigaethol a nyrsys arbenigol. Mae pob un o'n preswylwyr wedi'i gofrestru â meddyg teulu a chynigir gwasanaethau optegydd, podiatrydd/ciropodydd a deintydd iddynt hefyd. Mae darparu amgylchedd sy'n ddwyieithog ac â ffocws diwylliannol o ran anghenion y preswylwyr yn allweddol i'r cartref. Mae'r holl breswylwyr, teuluoedd a gofalwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan wrth ddatblygu eu llyfr cofio eu hunain am eu bywyd. Rydym yn gweithio ar ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan archwilio gweithgareddau sy'n diwallu anghenion a chwrdd â diddordebau pob preswylydd.
Photos
Map
Address
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.