Care Home Category: Residential

Mae Pen-coed yn gartref gofal cofrestredig â 25 gwely ar gyfer pobl hŷn, sy'n addas i letya grwpiau eraill o gleientiaid. Fe'i lleolwyd ym mhentref Wooden, Saundersfoot, 3.3 milltir o Ddinbych-y-pysgod a 4.7 milltir o Amroth. Mae gan y cartref dri chyfarwyddwr, sydd wedi bod yn gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol am dros 30 mlynedd ac maent yn ymrwymedig i ddarparu gofal o'r radd flaenaf i bob preswyliwr yn y cartref. Annie Escott yw rheolwr cofrestredig Pen-coed gydag enw da a gaiff ei barchu o ran gofal, ac yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth sy'n flaengar ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Caiff y cartref ei gynorthwyo gan dîm o staff sydd wedi'u cymell yn fawr ac yn derbyn hyfforddiant rheolaidd. Ein nod yw cofio bod preswylwyr yn unigolion sydd â'r hawl i benderfynu sut maent yn byw eu bywydau. Mae gennym amrywiaeth o ystafelloedd sengl ar gael ym Mhen-coed, ac rydym yn annog pobl i ddod ag eitemau bach o ddodrefn, lluniau, paentiadau ac eitemau personol i'w wneud i deimlo fel gartref. Mae'r holl staff yn derbyn hyfforddiant sy'n briodol i’w swydd, ac mae ganddynt lawer o flynyddoedd o brofiad o ofalu am bobl. Mae ein staff yn deall pwysigrwydd gofal a chonsyrn gwirioneddol, a byddant yn gwneud eu gorau glas i ddiwallu anghenion unigolion wrth helpu unigolion i gadw rheolaeth. Mae ansawdd y bwyd yn fater pwysig i bawb. Mae ein staff arlwyo yn darparu dewis o brydau bwyd maethlon a gafodd eu coginio gartref gyda newid rheolaidd o ran y fwydlen. Lle i fyw ynddo yw ein cartref. Pa bynnag anableddau a allai fod gan unigolyn, byddwn yn ymdrechu i wneud y mwyaf o bob cyfle i fyw bywyd i'r eithaf. Mae ein hymrwymiad am oes.
Photos
Map
Address
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.