Care Home Category: Nursing

Mae Cartrefi Gofal Plas Cwmcynfelin Ltd yn wasanaeth gofal teuluol ger Clarach, tua dwy filltir o dref prifysgol a chyrchfan glan-y-môr Aberystwyth. Mae'r cyfadeilad yn cynnwys dau adeilad, sef y prif dŷ a'r coetsiws, ac mae'r ddau'n cynnig gofal nyrsio. Gallwn ddarparu llety ar gyfer hyd at 55 o bobl sy'n 40 mlwydd oed ac yn hŷn gydag anghenion gofal nyrsio: 33 yn y prif dŷ a 22 yn y coetsiws. Mae'r prif dŷ (Plasty Cwm) a'r coetsiws wedi'u lleoli yn y gerddi hardd estynedig, gyda'r llety yn mwynhau golygfeydd dros y tiroedd, y dyffryn neu tuag at Fae Clarach. Rydym yn darparu llety mewn ystafelloedd sengl neu ddwbl. Mae gan nifer o'n hystafelloedd gyfleusterau toiled en suite neu ystafell wlyb en suite. Rydym yn agos at Aberystwyth a'r Borth gyda'u meddygfeydd priodol. Caiff meddyginiaethau eu darparu gan Fferyllfa'r Borth. Mae Ysbyty Bronglais hefyd yn agos at y cartref nyrsio, yn ogystal â gwasanaethau eraill y dref megis gwasanaethau deintyddol ac optegol a'r ganolfan ddydd. Rydym yn anelu at gynllunio pecyn gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn diwallu anghenion pob defnyddiwr gwasanaeth sy'n preswylio gyda ni. Rydym yn darparu gofal nyrsio cyffredinol, gan gynnwys gofal dibyniaeth uchel, gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Rydym yn anelu at ddarparu gofal sy'n llawn parch ac yn sensitif i anghenion gofal y defnyddiwr gwasanaeth i'w gynorthwyo i fyw bywyd mor llawn â phosibl o ystyried ei amgylchiadau unigol. Rydym yn cydnabod bod anghenion iechyd yr unigolyn, er eu bod yn bwysig, ond yn rhan o'r hyn sy'n ofynnol er mwyn profi llesiant gwirioneddol. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i ddiwallu anghenion cymdeithasol, deallusol, diwylliannol a chrefyddol hefyd. At y diben hwn, rydym yn anelu at ddarparu amrediad diddorol ac amrywiol o weithgareddau ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth, ac yn ymdrechu i gynnal diddordebau unigolion cyhyd ag y bo'n bosibl a chynnal eu cysylltiadau â'r gymuned yn gyffredinol.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.