Care Home Category: Residential

Mae Plas-y-Bryn yn gartref gofal wedi'i adeiladu’n bwrpasol sydd wedi'i leoli yng Nghwmgwili, Sir Gaerfyrddin. Mae Plas-y-bryn yn lle cynnes a chroesawgar, lle caiff y Gymraeg a’r Saesneg eu siarad fel ei gilydd, ac mae'n ymfalchïo yn ei enw da o ran gofal o fewn y gymuned leol ac ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymweld â'r lle. Mae'r angerdd i ofalu, a sbardunodd sefydlu Comfort Care Homes, yn parhau i fod mor bwysig ag erioed, ac mae Plas-y-bryn yn parhau i ymdrechu am y safonau gorau, am gartref croesawgar, glân a diogel, ac am ofal personol. Mae tîm hynod brofiadol o uwch-staff a gofalwyr yn cael eu harwain gan y rheolwr, ac mae pob un wedi ymroi i ddarparu safonau da. Mae staff gofal gwrywaidd a benywaidd yn cael eu cyflogi fel bod unigolion yn gallu dewis y gofalwr sy'n well ganddynt. Mae Plas-y-bryn wedi'i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Mae'r cartref yn darparu ar gyfer 34 o bobl hŷn dros 50 mlwydd oed sydd angen gofal personol. Mae Plas-y-bryn yn darparu ar gyfer pobl hŷn sydd â dementia neu sydd â rhywfaint o nam corfforol. Gallai unrhyw un sy'n iau na 50 oed gael ei ystyried ar sail unigol a ph'un a all y cartref ddiwallu anghenion yr unigolyn hwnnw. Mae gennym amrediad o weithgareddau yn y cartref. Rydym hefyd yn mynd â sawl taith, gan ymweld â sŵau, amgueddfeydd, glan y môr, rheilffyrdd stêm a llawer mwy!
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.