Care Home Category: Residential

Mae Waungron yn gyn-breswylfa Sioraidd bonheddwr, a leolir mewn pedair erw ar ddeg o gefn gwlad hardd Sir Benfro sy'n edrych dros dref hynafol Hendy-gwyn ar Daf gyda golygfeydd godidog at Fynydd Preseli. Wedi'i gofrestru ar gyfer 15 o breswylwyr hŷn, rydym yn gartref bach "tebyg i deulu" sy'n anelu at hyrwyddo annibyniaeth tra bo'n parchu anghenion corfforol, emosiynol ac ysbrydol unigolion. Mae gan Waungron ddwy lolfa fawr lle y gall preswylwyr ymlacio ac ystafell fwyta lle y gall y preswylwyr fwynhau dewis o brydau bwyd sydd wedi'u coginio gartref, gan gynnwys unrhyw ddeietau arbennig. Mae'r ystafelloedd gwely wedi eu dodrefnu'n gyfforddus gan gadw urddas ac unigoliaeth mewn cof, gyda nifer o ohonynt â chyfleusterau en suite. Mae lifft i deithwyr yn galluogi preswylwyr i fynd a dod fel y mynnant. Mae gennym ardd fawr sy'n hygyrch i'r holl breswylwyr a theuluoedd. Mae triniwr gwallt a chiropodydd yn ymweld yn rheolaidd.
Photos
Map
Address
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.