Care Home Category: Nursing
Mae Woodfield yn gartref gofal diarffordd sy'n darparu gofal dementia arbenigol i 24 o bobl ac sydd wedi'i leoli ar gyrion tref boblogaidd Arberth. Mae'r cartref wedi'i leoli yng nghanol ardal dwristaidd fawr, yr ydym yn manteisio i'r eithaf arni drwy fynd â'r preswylwyr i nifer o atyniadau a mannau o brydferthwch.
Mae Woodfield wedi ymroi i ddarparu gofal o'r safon uchaf i'w holl breswylwyr. Yr ydym yn ymfalchïo yn ein henw da ym maes gofal ac wedi ymroi i wella'r holl wasanaethau yr ydym yn eu cynnig. Mae ein tîm yn hynod frwdfrydig ac yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth er mwyn eich helpu chi i’ch helpu eich hun.
Ein diben yw cofio eich bod chi yn unigolyn sydd â hawl i benderfynu sut i fyw eich bywyd. Rydym yn eich annog i ddod ag eitemau bach o ddodrefn, lluniau a phaentiadau, ac mae croeso mawr i eitemau personol.
Mae pob aelod o staff yn derbyn hyfforddiant parhaus. Maent yn deall pwysigrwydd gofal a phryder gwirioneddol a byddant yn gwneud pob ymdrech i ddiwallu eich anghenion unigol. Mae safon bwyd yn fater pwysig i ni ac mae Woodfield yn darparu dewis o brydau bwyd cartref a bwydlen sy'n newid yn rheolaidd.
Byddwn wrth ein bodd yn eich cynorthwyo ag unrhyw un o'ch ymholiadau.