Care Home Category: Nursing

CYFLWYNIAD Mae Abermad wedi'i leoli ar ei diroedd preifat ei hun ar gyrion pentrefi Llanfarian a Llanilar, i'r de ond o fewn mynediad hawdd i Aberystwyth a'r holl amwynderau a gynigir yno. Adeiladwyd Abermad yn 1870 fel plas preifat ac, erbyn hyn, mae'n adeilad rhestredig Gradd II. Defnyddiwyd yr adeilad fel ysgol breifat am nifer o flynyddoedd cyn cael ei droi’n gartref nyrsio ryw 30 a mwy o flynyddoedd yn ôl. Kim McKay yw perchennog y busnes ers 2005. Mae Abermad wedi'i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i ddarparu gofal nyrsio 24 awr y dydd i uchafswm o 27 o bobl (dynion neu fenywod) sy'n hŷn na 65 oed. Rydym yn gofalu am bobl sydd ag amrediad eang o anghenion gofal iechyd cyffredinol a lefelau dibyniaeth. Gall yr anghenion hyn gynnwys problemau corfforol o ganlyniad i gyflyrau iechyd cronig megis strôc, clefyd y galon ac ysgyfaint, clefyd Parkinson, a dementia. Gall anghenion cleientiaid newid wrth iddynt ddod yn fwy bregus ac rydym yn monitro ein cleientiaid yn barhaus er mwyn diwallu eu hanghenion newidiol yn barhaus. Rydym yn gofalu am bobl hyd at ddiwedd eu hoes gyda chymorth gan y tîm gofal lliniarol, nyrsys ardal a meddygon teulu. Wedi’i chynnwys yn y cofrestriad ar gyfer y 27 o bobl y mae uned fach o saith gwely ar gyfer yr henoed bregus eu meddwl, ac ynddi rydym yn gofalu am bobl ag amrediad amrywiol o anghenion sy'n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl, gan gynnwys pob math o ddementia, h.y. clefyd Alzheimer, colli cof yn y tymor byr a'r hirdymor, dryswch ac ati. Rydym yn cyflogi nyrs iechyd meddwl gofrestredig at y diben hwn ac rydym yn cael ein cefnogi hefyd gan y tîm seiciatrig cymunedol lle bo angen.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.