Care Home Categories: Nursing and Residential

Mae Cartref Nyrsio Allt-y-mynydd yn gartref nyrsio cyffredinol â 44 gwely ac wedi'i adeiladu’n bwrpasol ac mae’n cwmpasu pob agwedd ar ofal preswyl, nyrsio a phreswyl dementia. Mae gan y cartref diroedd helaeth wedi'u lleoli yng Nghoedwig Brechfa yn edrych dros ddyffryn pictiwrésg Cwm Duar, yng nghalon cefn gwlad hyfryd Cymru. Mae'r ardal leol yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt lleol, ac mae wedi'i lleoli dim ond tair milltir y tu allan i Lanybydder ar yr heol tuag at Lansawel (y B4337) ac o fewn cyrraedd hawdd i Gaerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan a'r M4. Mae Cartref Nyrsio Allt-y-mynydd yn eiddo i Ashberry Healthcare Ltd, is-gwmni sy'n eiddo'n llwyr i Rosegarth Investments Limited. Sefydlwyd Ashberry Healthcare yn 2004 ac, erbyn hyn, mae'n cynnwys wyth o gartrefi gofal, gyda dau yn Warrington, dau yn Henffordd, un yn Surrey a thri yng Nghymru. Ceir manylion pellach ar ein gwefan yn www.asherry.net. Mae Allt-y-mynydd wedi'i gofrestru ar gyfer 44 o wlâu gofal henoed, sy'n cynnwys gwlâu ar gyfer nyrsio cyffredinol, gwlâu preswyl a gwlâu preswyl dementia. Mae'r cartref yn olau ac yn cael digon o awyr iach, ac mae gan y rhan fwyaf o’r ystafelloedd gwely olygfa ‘cerdyn post’ a thawel o gefn gwlad Cymru. Rydym yn cynnig amrywiaeth o ystafelloedd gwely, gyda'r rhan fwyaf â chyfleusterau en suite, ac mae pob un ohonynt yn ystafell sengl. Mae'r ystafelloedd gwely unigol wedi'u dodrefnu'n gyfforddus gyda chyfleusterau uned ymolchi, ac mae nifer o'r ystafelloedd gwely yn darparu toiled / ystafell ymolchi en suite hefyd. Mae pob ystafell wely yn cynnwys system galw nyrs fodern, man ffôn unigol, gwres thermostatig a theledu. Gan fod y cartref wedi'i leoli ar ddau lawr, mae mynediad mewn lifft i’r llawr cyntaf yn ogystal â ramp allanol wedi’i adeiladu’n bwrpasol sy'n hwylus i'r defnyddiwr.
Photos
Map
Address
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.