Care Home Category: ResidentialCare Home Tags: Dementia, EMI, Llanelli, and residential

Mae Ashley Court Care yn gartref sy'n cynnwys 47 gwely ac yn eiddo i Premier 1 Healthcare. Mae'r cartref wedi'i leoli yng nghanol tref Llanelli ac o fewn deg munud ar droed i siopau ac amwynderau. Mae cysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus gwych â'r cartref. Yn Ashley Court Care, mae ein prif bwyslais ar ansawdd bywyd cleient. Ein hethos yw, os yw person yn heini, yn fodlon ac yn mwynhau ei fywyd o ddydd i ddydd, bydd yn byw bywyd llewyrchus hir. Rydym yn credu y gall anelu at weithgareddau a theithiau gwell osgoi'r angen weithiau am roi triniaeth feddygol i reoli materion ymddygiadol. Rydym yn darparu teithiau i leoliadau o gwmpas Llanelli ac Abertawe i gyd ac i amgueddfeydd, gwestai a thraethau, ac ymweliadau rheolaidd â gweithdai dementia Tŷ Golau. Mae'r gweithgareddau hefyd yn parhau yn y cartref, ble mae gennym gydgysylltydd gweithgareddau penodedig sy'n trefnu partïon, dawnsiau, barbeciws, gemau cofio a llu o bethau eraill. Rydym hefyd yn ymfalchïo yn ein prydau bwyd cartref, sy'n gytbwys ac wedi'u datblygu gan ystyried hoffterau a chas bethau'r cleientiaid. Mae Ashley Court Care yn darparu ar gyfer yr henoed bregus eu meddwl a defnyddwyr y gwasanaeth preswyl. Rydym yn arbenigo yng ngofal cleientiaid sydd â dementia. Rydym yn ceisio creu naws gymunedol yn ein cartref drwy gynnwys teuluoedd yn ystod teithiau, partïon a digwyddiadau os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, rydym hefyd yno i leihau’r straen sydd ar deuluoedd nad ydynt yn gallu rhoi'r amser a'r gofal hwn i'w teulu, trwy drin ein preswylwyr fel petaent yn rhan o'n teulu ni. Ewch i'n gwefan am ragor o fanylion.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.