Care Home Category: Residential

Mae Awel Tywi yn gartref gofal pwrpasol a agorwyd yn y 1970au. Dros y blynyddoedd mae wedi elwa ar waith gwella ac adnewyddu sylweddol gan ymdrechu bob amser i gynnal llety a chyfleusterau o safon uchel i ddiwallu anghenion gofal a chwrdd â disgwyliadau'r bobl sy’n byw yno. Mae'r Cartref wedi'i gofrestru i ddarparu gofal a chymorth ar gyfer hyd at 38 o bobl ar sail barhaol a/neu dros dro. Mae hyn yn cynnwys darparu 1 wely seibiant, 8 gwely i bobl sydd â lefel isel i gymedrol o ddementia a 29 gwely preswyl cyffredinol. Mae'r llety ar y llawr gwaelod ac mae rhai swyddfeydd a lle storio ychwanegol ar y llawr cyntaf. Mae'r Rheolwyr a'r Tîm o Staff yn Awel Tywi wedi ymrwymo i ddarparu gofal a chymorth o safon uchel i'r holl Breswylwyr sy'n byw yn y Cartref. Rydym yn ymdrechu i gefnogi ymdeimlad personol o hunaniaeth a gwerth, gan ddangos bod unigolion yn cael eu clywed a'n bod yn gwrando arnynt, er mwyn cyflawni canlyniadau penodol yn seiliedig ar 'yr hyn sy'n bwysig' iddynt hwy.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.