Care Home Categories: Nursing and ResidentialCare Home Tags: friendly, homely, and unique

Mae Belmont Court yn Ninbych-y-pysgod, tref glan môr prydferthaf Cymru siŵr o fod. Cafodd Dinbych-y-pysgod ei sefydlu gan y Normaniaid fel tref gaerog. Mae Belmont Court yn agos at yr holl amwynderau lleol a cheir mynediad hawdd i gyfleusterau hamdden, bwytai a digonedd o gaffis ar hyd strydoedd cul, llawr cobls tref Dinbych-y-pysgod ei hun. Mae Belmont Court yn dŷ crand deniadol mewn lleoliad penigamp lle ceir golygfeydd godidog o draeth y De, arfordir Dinbych-y-pysgod, yr Ynys Bŷr a'r tu hwnt. Mae'r adeilad wedi'i addurno'n neis a cheir yno awyrgylch hamddenol a chartrefol. Ceir gerddi cysgodol prydferth â gwelyau blodau uchel a mannau i eistedd lle mae modd ymlacio a mwynhau'r awyrgylch a'r olygfa. Mae bob amser croeso i ymwelwyr drwy apwyntiad neu heb apwyntiad. Y cyfan rydym yn gofyn yw bod unrhyw ymwelwyr yn llenwi'r llyfr ymwelwyr wrth gyrraedd a gadael. Rydym yn cynnig ystod o weithgareddau dyddiol, yn seiliedig ar allu ac anghenion, dymuniadau a diddordebau. Bwriad y rhain yw gwella hunan-barch, hybu llesiant a darparu cyfleoedd ar gyfer integreiddio cymdeithasol a datblygiad personol. Gellir cynnal gweithgareddau a mwynhau diddordebau unigolion yn yr ardaloedd cymunedol mawr. Caiff cynnal cysylltiadau cymdeithasol â'r gymuned ehangach ei annog. Ceir 29 o welyau cofrestredig ac mae 23 o'r rheiny yn cynnwys en-suite. Mae'r holl ystafelloedd gwely yn cynnwys dodrefn o safon uchel sy'n amrywio mewn maint a siâp ac mae o leiaf un drâr clo ym mhob ystafell. Ceir hefyd 2 ystafell ymolchi gymunedol a chawod gymunedol.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.