Care Home Category: Residential

Mae Carlton House yn gartref gofal preswyl mewn safle aruchel gyda golygfeydd panoramig dros bentref Llan-non a Bae Ceredigion. Mae'r lawntiau a'r gerddi yn y blaen a'r cefn yn ddelfrydol ar gyfer eistedd yn yr awyr agored yn ystod misoedd yr haf. Ceir 16 ystafell wely, ac mae cyfleusterau en suite yn y rhan fwyaf, yn ymestyn dros dri llawr. Ceir lifftiau i deithwyr i bob llawr. Rydym wedi creu ymdeimlad gwirioneddol o "gartref oddi cartref" ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth, yn arbennig drwy ychwanegu heulfan olau ac awyrog sy'n ddelfrydol ar gyfer cyfarfod â theulu a ffrindiau. Rydym yn darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda dewis unigol ymhob agwedd ar y preswylio. Mae preifatrwydd, cyfrinachedd, urddas a pharch yn gonglfeini'r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu drwy ein staff gofalgar sydd wedi'u hyfforddi'n drwyadl. Mae aelodau o staff a rheolwyr sy'n siarad Cymraeg bob amser yn bresennol. Mae'r staff arlwyo yn darparu bwyd wedi'i baratoi'n ffres gyda phopeth wedi'i goginio gartref ac maent yn falch o'u sgôr hylendid bwyd pum seren. Mae gwasanaethau meddyg teulu lleol a nyrsys ardal yn ymweld yn rheolaidd. Mae gennym gysylltiadau cryf iawn â'r gymuned leol, gyda pherfformiadau gan ysgolion a chorau lleol a chymundeb gan y ficer bob chwe wythnos. Galwch i weld y cartref a dewch â'ch anwylyn gyda chi, a fydd yn gallu ymuno â'n defnyddwyr gwasanaeth am ginio er mwyn cael ymdeimlad o'n cartref hyfryd.
Photos
Map
Address
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.