Care Home Category: Residential

Mae Llys Fechan yn gartref preswyl dan berchnogaeth teulu sydd wedi'i leoli ym mhentref Cross Hands. Cofrestrwyd y cartref ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o dan berchnogion presennol Andrew a Joanna Miles ym mis Awst 2007, er mwyn darparu gofal i 18 o breswylwyr, dynion a menywod, sy'n hŷn na 65 oed. Mae'r cartref, sydd wedi ei adeiladu’n bwrpasol, wedi'i leoli ar erw o dir amaethyddol gyda digon o ardaloedd i eistedd yn yr awyr agored i breswylwyr eu mwynhau ac mae’r rhain yn hygyrch i bobl mewn cadair olwyn. Mae Cross Hands yn darparu mynediad hawdd at amwynderau lleol, gan gynnig amrywiaeth o siopau, caffis a sinema o fewn pellter cerdded yn ogystal â chysylltiadau trafnidiaeth gwych mewn bws neu gar i Gaerfyrddin, Llanelli, Rhydaman, Llandeilo ac Abertawe. Mae Cross Hands yn gymuned Gymreig glos iawn ble mae gwerthoedd teulu traddodiadol yn parhau i fod yn gryf ac mae hyn yn amlwg yng nghymuned glos Llys Fechan, lle mae teuluoedd a ffrindiau yn cael eu hannog i ymweld ac yn cael eu gwerthfawrogi o fewn y cartref. Mae sawl meddygfa a phractis deintyddol ym mhentref Cross Hands ac ardaloedd oddi amgylch.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.