Care Home Category: Residential

Mae Glanmorfa yn lletya'r holl breswylwyr mewn ystafelloedd sengl ac mae cyfleusterau en suite mewn naw ystafell ac mae dwy ardal lolfa ar gael i'r preswylwyr eu defnyddio. Mae'r gerddi wedi cael eu cynllunio i ysgogi ac annog defnyddwyr gwasanaeth i ddefnyddio'r gofod yn yr awyr agored gydag arogl planhigion a pherlysiau a sŵn byd natur. Maent yn annog defnyddwyr gwasanaeth i roi gymaint o fewnbwn i'r ardal yn yr ardd ag y bônt yn ei ddymuno ac mae tîm o gydlynwyr gweithgareddau yn helpu'r defnyddwyr gwasanaeth i gyflawni hyn. Hefyd mae ganddynt fflat lled-annibynnol a adeiladwyd yn bwrpasol sy'n cynnwys ystafell wely fawr gyda chyfleusterau en suite ac ardal lolfa breifat ar wahân gyda chegin llong, a drysau patio sy'n arwain at ardal batio ddiogel ac sy'n hawdd cael mynediad ati. Mae'r ystafell ynghlwm wrth y cartref ac mae ganddi wasanaeth gofal 24 awr gyda'r holl systemau a larymau galw sy'n ofynnol gan y rheoliadau. Adeiladwyd canolfan hydrotherapi newydd ar y tiroedd ac mae'n cael ei staffio gan therapyddion cymwysedig. Mae gan y preswylwyr fynediad at y cyfleuster hwn drwy system apwyntiad. Mae Glanmorfa wedi'i leoli ynghanol tref hanesyddol Cydweli gyda chastell byd-enwog Cydweli o fewn pellter cerdded a gellir ei weld o'r cartref. Mae'r holl gyfleusterau lleol o fewn pellter cerdded ac mae'r bysiau a threnau ar gael er mwyn treulio amser yng Nghaerfyrddin, Abertawe neu Lanelli. Maent hefyd ar garreg drws traeth a Pharc Gwledig Pen-bre, sydd wedi ennill gwobrau lu. Mae Dinbych-y-pysgod ac arfordir Gŵyr hefyd yn daith fer i ffwrdd yn unig. Mae'r cartrefi yn darparu dull gweithredu symbylol a therapiwtig i ofal gyda golwg sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a thîm sy'n cynnwys niwro-ffisiotherapi, therapi ymarfer corff a gweithgareddau un-i-un. Gyda thros bum mlynedd ar hugain o brofiad o ddarparu gwaith adsefydlu i gleifion sydd ag anafiadau ar yr ymennydd, maent yn credu er mwyn goresgyn eu problemau bod yn rhaid sicrhau ansawdd bywyd ac mae'n rhaid i'r defnyddiwr gwasanaeth fod â chymaint o fewnbwn â phosib i'w ddyfodol i fedru cyflawni ei nodau.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.