Care Home Category: Nursing

Mae Glasfryn yn gartref nyrsio a phreswyl sefydledig â 24 gwely y mae ei diroedd aeddfed yn darparu amgylchoedd heddychlon. Mae'r cartref yn union gyferbyn â Pharc Howard, sef parc poblogaidd sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr. Rydym yn canolbwyntio ar ofal yr unigolyn i ddiwallu anghenion unigol. Mae defnyddwyr y gwasanaeth sy'n dod i Lasfryn i ymgartrefu'n cael eu parchu a'u grymuso i wneud dewisiadau unigol o ddydd i ddydd, gan ystyried agweddau diwylliannol, crefyddol, iechyd a deietegol. Mae nyrs gofrestredig gymwys ar ddyletswydd 24 awr y diwrnod, saith diwrnod yr wythnos, ynghyd â thîm ardderchog o weithwyr gofal cymwys sydd wedi cyrraedd Lefel 2 neu uwch yn y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau gyda Choleg Gŵyr Abertawe. Mae gennym ffisiotherapydd mewnol cofrestredig a all asesu a chanolbwyntio ar anghenion unigol. Ceir ciropodydd sy'n ymweld â'r lle bob chwech i wyth wythnos. Ac mae triniwr gwallt mewnol sy'n ymweld â'r lle ddwywaith yr wythnos. Mae mynediad at weithgareddau sy’n cael eu trefnu'n fewnol ac yn allanol yn y gymuned. Caiff trafnidiaeth ei threfnu ac mae'r staff yn mynd yn gwmni i'r preswylwyr. Mae ein gweithgareddau yn cynnwys adloniant gan gerddor preswyl ac amrywiaeth o ddiddanwyr eraill, harddwr sy'n rhoi aromatherapi a thriniaeth gofal ewinedd, a chydgysylltydd celf a chrefft sydd hefyd yn mwynhau sesiwn arddio therapiwtig gyda phreswylwyr. Rydym yn darparu bwydlen amrywiol sy'n cynnwys pryd tri chwrs dair gwaith y dydd yn ogystal â byrbrydau ar gais. Rydym yn cael llysiau ffres o'r ardal leol. Mae gennym fynediad at wasanaethau awdioleg, offthalmoleg a deintyddiaeth. Mae staff yn mynd yn gwmni i'r preswylwyr i apwyntiadau ysbyty. Rydym tua deg munud ar droed o dref Llanelli gyda llwybr bws rheolaidd. Mae gennym bolisi drws agored a gall aelodau teulu siarad â nyrs gofrestredig ar unrhyw adeg.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.