Care Home Category: Residential

Mae Cartref Gofal Gwernllwyn wedi'i leoli ym mhentref Cross Hands, Sir Gaerfyrddin. Er ei fod mewn ardal wledig, mae’r cartref wedi'i wasanaethu'n dda gan systemau ffyrdd mawr ac mae'n gyfleus o agos at yr M4. Mae trefi Llanelli, Caerfyrddin a Llandeilo yn llai na 30 munud i ffwrdd mewn car a gellir cyrraedd atynt yn hawdd. Mae gan y pentref amrywiaeth o archfarchnadoedd, siopau cyfleusterau, siopau, mannau bwyta, siopau coffi, fferyllfeydd a swyddfa bost a rhai atyniadau lleol diddorol. Mae Cartref Gofal Gwernllwyn yn darparu gofal preswyl ar gyfer dynion a menywod. Yn y Gwernllwyn, gallwn letya dim mwy na 41 o unigolion. Mae hyd at 41 o leoedd ar gyfer pobl sy'n 60 oed neu'n hŷn sydd angen gofal personol. Mae hyd at 21 o leoedd o fewn y 41 ar gyfer pobl sy'n 60 oed neu'n hŷn sydd â dementia ac sydd angen gofal personol ac un lle ar gyfer unigolyn sy'n 55 oed neu'n hŷn sydd angen gofal personol. Mae ein llawr cyntaf wedi ei enwi'n Tŷ Pilipala, sy'n gartref i unigolion sy'n byw gyda dementia. Mae pili-palod yn cynrychioli dygnwch, newid a gobaith ac maent yn gynrychiolaeth bwerus o fywyd a'i drawsffurfiad, beth bynnag fo'r cam. Mae Cartref Gofal Gwernllwyn yn anelu at ddarparu gwasanaeth sy'n cefnogi unigolion i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl o ran eu hanghenion unigol. Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu gwasanaeth gofal a chymorth sy'n diwallu anghenion asesedig mewn ffordd y mae'r unigolyn yn ei ffafrio. Rydym hefyd yn asesu ac yn lliniaru unrhyw risgiau cyhyd ag y bo'n bosibl, sy'n gysylltiedig â diwallu'r anghenion asesedig. Ein nod cyffredinol yw cefnogi unigolion i fod mor annibynnol ag y gallant fod ac y maent yn dymuno bod, cyhyd ag y bo'n bosibl. Yn y Gwernllwyn, rydym yn deall bod anghenion unigolion yn newid ac yn codi a gostwng, ac felly rydym yn mabwysiadu dull hyblyg i'r cymorth rydym yn ei gynnig ac rydym yn derbyn bod adolygiad parhaus o anghenion yn hanfodol i gefnogi anghenion cyfnewidiol pobl. Rydym yn falch o arfer gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn y Gwernllwyn. Bydd y dull gweithredu hwn bob amser yn sail i'r gofal rydym yn ei ddarparu. Mae'r hyn rydym yn ei wneud yn ddibynnol ar hoffterau, anghenion a dymuniadau pob unigolyn, sy'n grymuso unigolion i gymryd rheolaeth a'u gwneud hwy yr arbenigwr ar eu bywydau eu hunain. Rydym yn sicrhau bod hoffterau, anghenion a gwerthoedd pob unigolyn yn llywio penderfyniadau i ddarparu gofal sy'n llawn parch ac yn ymatebol. Gweledigaeth Ein gweledigaeth ar gyfer y Gwernllwyn yw bod yn ddewis cadarnhaol i bobl hŷn, ac i'n cartref gofal gael ei gydnabod a'i barchu am ei arferion rhagorol sy'n rhoi canlyniadau cadarnhaol i bawb rydym yn gofalu amdanynt. Ethos Rydym yn sylweddoli bod symud i gartref newydd yn newid mawr mewn bywyd, a dyma pam rydym wedi creu cartref oddi cartref lle y bo pob unigolyn yn derbyn sicrwydd, yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i barchu, ac yn derbyn cymorth ac anogaeth i fod yn bopeth y gall fod a byw ei fywyd gydag ystyr a phwrpas. Gwerthoedd Credwn na ddylai gwerth ac unigoliaeth pobl ddirywio o ganlyniad i'w hangen cynyddol am gymorth. Rydym yn dyheu am y canlynol: Gweithio gydag uniondeb. Bod yn agored ac yn hygyrch. Gwrando y tu hwnt i'r geiriau. Ymddwyn yn broffesiynol ymhob peth a wnawn. Edrych tua'r dyfodol, addasu a pharhau i fod yn berthnasol. Nodau Rydym yn anelu at ddarparu a chynnal llety cartrefol o'r radd flaenaf. Recriwtio, hyfforddi a chynnal staff fel y bo unigolion yn gallu mwynhau gofal parhaus a medrus a fydd yn eu galluogi i gyrraedd eu cyflwr gorau oll o ran iechyd a llesiant. Amcanion gofal Darparu amgylchedd diogel, gofalgar ac ysgogol sy'n cydnabod yr angen am gyflawniad personol. Cydnabod unigrywiaeth yr unigolion a'u trin ag urddas a pharch bob amser. Parchu gofyniad yr unigolyn am breifatrwydd bob amser a thrin yr holl wybodaeth sy'n ymwneud ag unigolion mewn modd cyfrinachol. Ymateb yn sensitif i anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol ac ysbrydol unigolion. Gwrando ar unigolion a'u cefnogi i fynegi eu dymuniadau. Parchu ac annog hawl yr holl unigolion i annibyniaeth. Galluogi unigolion i ddatblygu perthnasau ystyrlon â'r staff a phrofi cynhesrwydd ac ymlyniad. Creu amgylchedd byw sy'n gydweithredol, yn gefnogol ac yn grymuso, a thrwy hynny gynnal hawliau dynol a dinasyddiaeth pawb sy'n byw, gweithio ac ymweld yma.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.