Care Home Category: Residential

Mae Cartref Havenhurst yn darparu cymorth ar gyfer oedolion hŷn sydd â thrafferthion gwybyddol, dementia a phroblemau iechyd meddwl eraill. Mae Havenhurst yn darparu saith gwely asesiad, saith gwely seibiant a chwe gwely gofal hirdymor. - Mae 20 ystafell wely sengl. - Nid yw Cartref Havenhurst yn benodol ar gyfer un rhyw. - Bydd pob unigolyn yn cael asesiad i sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu diwallu ei anghenion. - Mae Cartref Havenhurst yn cysylltu â Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ddarparu'r gwasanaeth asesu, gan weithio ar y cyd â'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol. Nid yw Cartref Havenhurst yn darparu gofal nyrsio. Mae cartref Havenhurst yn anelu at y canlynol: - Darparu amgylchedd croesawgar, diogel, hapus a gofalgar. - Darparu awyrgylch cartrefol, cyfeillgar ac ymlaciedig. - Cynnal safonau gofal uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. - Cefnogi ac annog pobl i fyw bywyd mor llawn a gweithredol ag y bo'n bosibl i osgoi dirywiad. - Galluogi pobl i gynnal eu hannibyniaeth a llesiant a chanolbwyntio ar y canlyniadau gorau ar gyfer pob unigolyn, gan sicrhau bod bregusrwydd yn cael ei ddiogelu. - Sicrhau bod gan bob unigolyn y rhyddid i fynegi ei safbwyntiau a'i ddymuniadau ei hunan a sicrhau bod ei hawliau yn cael eu parchu. - Sicrhau bod pawb yn cael eu trin gyda pharch a chyfrinachedd a chan gynnal preifatrwydd bob amser.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.