Care Home Category: Residential

Mae Highgrove wedi'i leoli mewn ardal breswyl yn nhref Hwlffordd, Sir Benfro. Mae'n lleoliad delfrydol ar gyfer yr holl amwynderau hanfodol ac ond ychydig funudau i ffwrdd o forlin hardd Sir Benfro, gan gynnwys y Parc Cenedlaethol. Rydym yn falch o gynnig gofal i 30 o breswylwyr, gan eu galluogi i gynnal eu hurddas a'u hannibyniaeth. Rydym yn ymfalchïo am fod yn hyblyg ac am addasu i anghenion y preswylwyr. Rydym yn deall bod anghenion unigolion yn newid, ac rydym yn gwneud pob ymdrech i ddiwallu anghenion y preswylwyr hyd at ofal diwedd oes. Mae staff yn Highgrove wedi'u hyfforddi ac yn brofiadol yn gofalu am unigolion sy’n derbyn gofal preswyl a gofal lliniarol a’r henoed bregus eu meddwl. Rydym yn gallu diwallu anghenion oedolion trwy ddarparu gofal personol ag urddas a pharch yn unol â dymuniadau a dewisiadau'r preswylwyr. Rydym yn cynorthwyo preswylwyr â'u hanghenion meddygol a maeth. Mae gennym berthynas waith ardderchog â'r nyrsys ardal a meddygon teulu sy'n ymweld â'r cartref yn rheolaidd ac yn ôl yr angen er mwyn diwallu unrhyw anghenion nyrsio sydd ar ddefnyddwyr y gwasanaeth. Rydym yn gartref preswyl dan berchnogaeth teulu ac yn ymfalchïo yn ein hawyrgylch croesawgar a chyfeillgar, yn ogystal â'n perthynas arbennig gyda'n hymwelwyr a'n haelodau teulu.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.