Care Home Category: Residential
Mae'r cartref yn darparu gofal preswyl, seibiant a chanolradd i oedolion hÅ·n. Mae gennym gyfanswm o 20 gwely, ac mae'r holl ystafelloedd yn rhai sengl.
Byddwn yn asesu pob un yn unigol i sicrhau y gallwn ddiwallu eu hanghenion unigol yng Nghartref Hillside.
Mae'r gwelyau gofal canolradd yn Hillside yn cysylltu â Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ddarparu gwasanaeth ffisiotherapi a galwedigaethol pwrpasol bob wythnos.
Mae'r cartref ar ddau lawr gyda thoiledau, ystafelloedd ymolchi a chawodydd a rennir ar bob llawr.
Mae gan bedair o'n hystafelloedd gwely gyfleusterau en suite.
Mae Cartref Hillside yn cynnwys cyfarpar a dodrefn i safon gyfforddus ac mae gan bob ystafell wely y canlynol: teledu, radio (gofynnir i ddefnyddwyr gwasanaeth pa un a fyddai'n well ganddynt neu a fyddent yn dymuno'r ddau), systemau rhybuddio staff, cabinetau y gellir eu cloi, gwely sy'n proffilio, cwpwrdd dillad, cist ddroriau, a bwrdd a lamp ar ochr y gwely.
Mae dwy lolfa ac ardal fwyta/gweithgareddau fawr. Mae gan y ddwy lolfa ardaloedd â seddi a setiau teledu. Ceir lle parcio i flaen yr adeilad a gerddi yn y cefn lle y bo heulfan fawr hefyd, sy'n edrych dros yr ardd ac yn rhoi golygfeydd o'r môr yn y pellter. Mae'r ystafell fwyta'n cynnwys seddi ar gyfer hyd at 20 o bobl, lle y gallwch ddewis cael eich prydau bwyd.
Nid yw'r cartref yn cynnig gofal nyrsio.