Care Home Category: Residential

Lleolir Cartref Gofal Llwyndyrys mewn ardal odidog gerllaw afon Teifi, yn Llechryd, Ceredigion. Mae'r cartref yn gosod pwyslais cadarn ar ofal o safon sy'n "canolbwyntio ar yr unigolyn". Mae'r maenordy godidog, sydd wedi'i ymestyn yn sensitif i gynnal urddas y cartref, wedi'i osod mewn deg erw o dir. Mae'r cartref yn cynnig y cysur a'r awyrgylch y byddai rhywun yn dymuno ei ganfod gartref. Mae hyfforddiant ar bob lefel wedi bod yn ffactor allweddol sy'n ysgogi Llwyndyrys gyda rhaglen hyfforddiant barhaus sydd wedi helpu i feithrin tîm dynamig o weithwyr gofal proffesiynol. Mae'r rheolwr a'i thîm yn ymdrechu i wneud eu gorau glas dros eu preswylwyr, a chaiff hynny ei adlewyrchu yn y modd mae Llwyndyrys yn cael ei redeg o ddydd i ddydd, a chynnwys y preswyliwr, y teulu a'r tîm gofal wrth ddarparu gofal o safon sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae pawb yn cymryd rhan wrth gynllunio'r gweithgareddau a digwyddiadau o ddydd i ddydd ac mae hoff weithgareddau'r preswylwyr wedi dod yn gonglfaen i'r rhaglen heddiw.
Photos
Map
Address
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.