Rydym yn fusnes teuluol ar gyfer 15 o unigolion. Mae Lynnefield ym mherchnogaeth Mr a Mrs Rusev sydd ar y safle bron bob dydd, maen nhw'n cael cymorth gan reolwr, tîm o uwch-ofalwyr a thîm amrywiol o staff gweithgareddau, gofal, domestig a'r gegin. Mae gan reolwr ein cartref dros 32 mlynedd o brofiad mewn lleoliadau gofal amrywiol. Mae hi'n rhan amlwg o'r gymuned leol. Mae Lynnefield yn ymfalchïo yn ei goginio cartref; mae pob pryd yn cael ei wneud yn ffres bob dydd. Mae gweithgareddau unigol ac mewn grŵp yn cael eu trefnu, gan gynnwys gwibdeithiau i'r gymuned. Mae gennym ymrwymiad cryf i ddarparu hyfforddiant parhaus. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio tuag at hyfforddi'r holl staff fel Hyrwyddwyr Dementia a'u hannog i ennill cymhwyster QCF. Mae gan ein swyddogion uwch profiadol gymhwyster QCF Lefel 3 a chymwysterau meddyginiaeth achrededig, ac maen nhw wedi cael hyfforddiant uwch gan gynnwys asesiad risg a mentora. Rydym mewn lleoliad delfrydol sy'n agos i Hwlffordd, felly mae mynediad at gymorth meddygol, digwyddiadau cymdeithasol ac ati'n gyfleus. Mae gennym berthynas ardderchog â meddygon teulu, fferyllwyr, a nyrsys ardal (sy'n aml yn sôn pa mor gyfeillgar a chymwynasgar yw ein cartref a'n staff). Mae croeso i chi gysylltu os hoffech gael rhagor o wybodaeth amdanom ni ar 01437 766594 neu drwy anfon e-bost at: office@lynnefield.com
Photos
Map
Address
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.