Care Home Categories: Nursing and Residential
Mae Cartref Nyrsio Meadows yn gartref gofal wedi'i adeiladu'n bwrpasol ar ei dir ei hun ym mhentref Johnston yn agos at draethau lleol a Bryniau'r Preseli.
Ym mhentref Johnston, ceir mynediad hawdd i gysylltiadau bysiau a threnau ac mae trefi Aberdaugleddau a Hwlffordd dim ond pum milltir i ffwrdd a gellir cael mynediad hawdd iddynt ar hyd yr A40.
Adeilad deulawr yw Cartref Meadows a cheir mynediad lifft i'r llawr uchaf. I ddechrau, cafodd Meadows ei adeiladu â 32 o ystafelloedd ond wedyn, adeiladwyd estyniad a oedd yn cynnwys 22 ystafell. Mae'r holl ystafelloedd yn bodloni'r safonau gofynnol cenedlaethol o ran maint ac yn darparu cyfleusterau ystafell ymolchi en-suite. Mae gan y Cartref system galw am gymorth ac mae pwyntiau seinio'r larwm ar gael yn yr ystafelloedd gwely, ystafelloedd dydd, ystafelloedd ymolchi a'r toiledau.
Nod Meadows yw darparu'r safonau uchaf o ofal mewn amgylchedd cyfforddus, diogel a chartrefol ac i sicrhau annibyniaeth preswylwyr ond ar yr un pryd, parchu eu preifatrwydd a'u hurddas.
Mae'r bobl sy'n gweithio yng Nghartref Nyrsio Meadows yn mynd yr ail filltir i sicrhau bod y bobl sy'n byw yno yn mwynhau bywyd o ansawdd da, yn gallu mwynhau diddordebau maent wastad wedi'u mwynhau os yn bosibl, gan sicrhau bod gan y cartref awyrgylch teuluol cyfforddus.