Care Home Category: Nursing
Mae Parc Wern wedi'i leoli'n gyfleus yn ardal lled wledig Pen-y-banc yn agos i Rydaman, ac, o'i leoliad aruchel, gellir mwynhau ei olygfeydd eang o’r cefn gwlad a mynyddoedd cyfagos. Mae gan y cartref iard ganolog gaeedig hyfryd, a gardd ag ardaloedd i eistedd ble gall preswylwyr ymlacio yn yr awyr agored. Mae Parc Wern yn cynnig amgylchedd cefnogol, cartrefol a modern ac mae pob ystafell wely a lolfa wedi'i chynllunio i sicrhau cyfforddusrwydd a diogelwch. Mae’r addurniadau cyfeillgar a chroesawgar yn helpu preswylwyr i deimlo'n gartrefol. Mae gan y cartref bolisi drws agored ac mae bob amser croeso i deuluoedd a ffrindiau.