Care Home Category: Residential
Mae Pembroke Haven (Residential Homes) Ltd yn fusnes teulu lleol ac annibynnol sydd wedi bod yn darparu cymorth a gofal i'r henoed am dros 40 mlynedd.
Mae'r cartref wedi'i adeiladu'n bwrpasol ac yn darparu lleoliad gofal preswyl ar gyfer pobl hŷn. Wedi'i leoli yn ardal Llanion yn Noc Penfro, mae'r cartref wedi’i leoli ar safle amlwg iawn sy'n edrych dros ddyfrffordd Aberdaugleddau.
Mae Pembroke Haven yn darparu gofal preswyl i'r rheiny sy'n 65 oed neu'n hÅ·n ac mae wedi'i gofrestru ar gyfer cyfanswm o
33 o gleientiaid. Mae'r cartref yn cynnig cymorth i'w gleientiaid yn ôl y galw a gall hyn gynnwys cymorth gydag ymataliaeth, dementia cynnar, symudedd ac anghenion deietegol.
Mae'r cartref yn adeilad un llawr. Mae gan bob ystafell breifat gyfleusterau en suite, mae ystafelloedd wedi'u haddurno'n llawn, ac mae systemau galw wedi’u gosod er mwyn sicrhau mynediad 24 awr i'r staff gofal.