Care Home Category: Residential

Mae The Haven wedi'i leoli mewn rhan breswyl, dawel hen sefydledig o'r dref a chafodd ei adeiladu yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Mae'r cartref yn glyd iawn, a chafodd ei adeiladu ar ddau lawr. Darperir mynedfa at y llawr cyntaf gan y ddau lifft, sy'n gallu cynnwys cadair olwyn yn hawdd os oes angen. At ei gilydd, rydym yn cynnig llety ar gyfer 28 o bobl. Yn y cartref, ceir uned 19 gwely ar gyfer henoed bregus eu meddwl. Er ei fod wedi'i ddylunio'n wreiddiol fel cartref yn y dref ar gyfer teulu mawr, cafodd y cartref ei ailwampio’n llwyr fel cartref preswyl yn 1992, ac mae'n cyrraedd yr holl safonau gofynnol ar gyfer cartref o'i fath. Mae enw da i The Haven ymhlith ysbytai, gweithwyr cymdeithasol, teuluoedd a nyrsys arbenigol megis tîm Macmillan, ac rydym yn falch o'n hachrediad gan y cyngor lleol. Yn anffodus, ni allwn dderbyn defnyddwyr gwasanaeth sydd angen gofal nyrsio parhaus ond gallwn gynnig yr un gofal ag a fyddai'n cael ei gynnig, er enghraifft, gan berthynas ofalgar yng nghartref y defnyddiwr gwasanaeth ei hun, gyda chymorth ei feddyg ei hun a'r gwasanaeth nyrsio ardal.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.