Care Home Category: Residential

Mae Torestin yn gartref preswyl ar gyfer pobl hŷn sy’n gofalu am 44 o bobl hŷn ac sydd wedi'i leoli ym mhentref Tiers Cross, sy'n agos i Hwlffordd. Mae'r cartref wedi'i leoli yng nghanol ardal dwristaidd fawr, yr ydym yn manteisio i'r eithaf arni drwy fynd â'r preswylwyr i nifer o atyniadau a mannau o brydferthwch. Ein diben yw cofio eich bod chi yn unigolyn sydd â hawl i benderfynu sut i fyw eich bywyd. Byddwch yn sicr o gael ystafell i chi eich hun. Rydym yn eich annog i ddod ag eitemau o ddodrefn, lluniau, paentiadau ac eitemau personol, a fydd yn eich helpu i wneud eich ystafell yn bersonol ar eich cyfer chi. Mae pob aelod o staff yn derbyn hyfforddiant parhaus, ac mae gan nifer flynyddoedd o brofiad yn gofalu am bobl hŷn. Maent yn deall pwysigrwydd gofal a phryder gwirioneddol, a byddant yn gwneud pob ymdrech i ddiwallu eich anghenion unigol wrth eich helpu i gadw rheolaeth. Mae ein cartref yn rhywle i fyw ynddo. Beth bynnag fo'ch anghenion personol, byddwn yn eich helpu i wneud y gorau o bob cyfle i fyw eich bywyd i'r eithaf. Mae ein hymrwymiad i chi am oes. Beth bynnag fo'ch sefyllfa ariannol neu eich anghenion corfforol ar hyn o bryd, neu yn y dyfodol, byddwn yn parhau i'ch cefnogi.
Lluniau
Map
Cyfeiriad
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.