Care Home Category: Residential

Mae Cartref Gofal Towy Castle yn blasty o'r ddeunawfed ganrif sydd wedi'i drawsnewid yn hardd a'i leoli mewn tair erw o diroedd preifat gyda golygfeydd godidog o aber afon Tywi o'i amgylch. Mae'r cartref a gaiff ei redeg gan deulu yn darparu amrediad o becynnau gofal hyblyg a phwrpasol ar gyfer gofal preswyl hirdymor a gofal dydd. Yn ogystal, ychwanegwyd uned gofal dementia arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol i'r cartref yn 2012. Mae'r staff yn y cartref wedi'u hyfforddi'n dda ac yn gymwysedig ac maent yn anelu at ddarparu gofal o'r radd flaenaf sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan drin pob preswylydd ag urddas a pharch. Mae'r uned breswyl yn cynnwys llety o'r radd flaenaf sydd wedi'i foderneiddio a'i gynllunio i ddarparu amgylchedd cartrefol, diogel a hapus gydag ystafelloedd hardd a gofodau cymunol trawiadol. Mae gan yr holl ystafelloedd gyfleusterau en suite ac mae ganddynt system galw nyrs ar waith, ynghyd â phwyntiau teledu a ffôn. Gall y preswylwyr elw ar amrediad o gyfleusterau a gwasanaethau megis ystafell sinema, salon trin gwallt a gwasanaeth golchi dillad, a gallant ddewis cymryd rhan mewn gweithgareddau a chyngherddau rheolaidd yn y cartref. Caiff prydau bwyd blasus eu coginio gartref a'u paratoi'n ddyddiol gan ddefnyddio cynnyrch lleol ffres. Mae'r unedau dementia sydd newydd eu hadeiladu yn darparu gofal arbenigol mewn amgylchedd cartrefol a chyfeillgar a ddyluniwyd yn ofalus ar gyfer hyd at ugain o breswylwyr. Mae pob uned yn cynnig amrediad o gyfleusterau sy'n gyfeillgar i ddementia a hefyd yn cynnwys gardd synhwyraidd yn yr awyr agored. Mae'r holl ystafelloedd yn eang ac wedi'u dodrefnu'n chwaethus ac yn cynnwys ystafell wlyb, system galw nyrs, teledu ar y wal a chypyrddau gosod.
Photos
Map
Address
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.