DATGANIAD O DDIBEN  Cartref preswyl i un ar bymtheg o bobl hŷn (dros 65 oed), yn ddynion a merched yw Cartref Gofal Y Garreg Lwyd, a gofrestrwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000. Mae wedi’i leoli ar lôn wledig dawel, tua milltir o dref fach Sanclêr. Mae erw neu ddwy o erddi o gwmpas y cartref, a cheir mynediad uniongyrchol iddynt o’r rhan fwyaf o’r ystafelloedd. Mae’r staff yn cael eu recriwtio o’r ardal leol ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn siarad Cymraeg. Mae sawl un o’r staff uwch wedi bod gyda’r Cartref am nifer o flynyddoedd. Mae’r Cartref yn ceisio darparu amgylchedd lle bydd preswylwyr yn teimlo’n gyffyrddus a diogel, dan law staff sydd wedi eu hyfforddi, ond lle cânt eu hannog ar yr un pryd i gadw eu hannibyniaeth. Rydym yn parchu preifatrwydd ac urddas ein preswylwyr ac fe’u hanogwn i gadw cysylltiad â’u ffrindiau a’u teuluoedd, ac mae croeso iddynt bob amser yn y Cartref. Mae gennym bedair ar ddeg o ystafelloedd sengl ac un ystafell a rennir. Caiff pob pryd bwyd ei goginio yng nghegin y Cartref a’i weini yn yr ystafell fwyta, neu os dymunir yn ystafelloedd y preswylwyr eu hunain. Rydym yn gweini brecwast rhwng 8.00 a 9.00 y bore, cinio rhwng 12.00 a 12.30 p.m., te prynhawn, a phryd nos am 6.00 yr hwyr. Gellir cael diodydd poeth a byrbrydau gydol y dydd ac yn arbennig amser gwely. Darperir dietau arbennig yn ôl y gofyn. Mae gennym ddwy lolfa lle gall preswylwyr gyfarfod i gymdeithasu, darllen y papurau newydd neu wylio’r teledu. Mae teledu yn y ddwy lolfa a phwyntiau erial ym mhob ystafell at ddefnydd y preswylwyr. Darperir pwyntiau ffôn yn ôl y gofyn. Gall preswylwyr ddewis cofrestru naill ai gyda meddygfa Coach and Horses yn Sanclêr neu Feddygfa Taf yn Hendy-gwyn ar Daf. Er nad yw’r Cartref yn darparu gofal Nyrsio, mae’r Nyrsys ardal ar gael i ymweld pan fo angen.
Photos
Map
Address
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.