Care Home Category: Residential

Mae Cartref Preswyl yr Hafod wedi'i leoli yn nhref hanesyddol Aberteifi. Mae'r cartref preswyl wedi'i leoli o fewn pellter cerdded byr i’r siopau, llwybrau bysiau ac amwynderau lleol eraill, gan gynnwys pwll nofio, theatr, sinema a'r castell, sydd wedi'i adnewyddu'n ddiweddar ac sydd yn gyfagos ag afon Teifi. Mae'r cartref yn cynnig 28 o leoedd preswyl, gan gynnwys rhai tymor byr, dros dro, parhaol a gwely seibiant. Rydym yn darparu gofal a chymorth preswyl i bobl hŷn sydd ag amrywiaeth o anghenion cymhleth, a allai gynnwys dirywiad gwybyddol sy’n gysylltiedig ag oedran a diagnosis cynnar o ddementia. Mae'r cartref yn gweithio'n agos gyda’r meddygon teulu, nyrsys ardal, ffisiotherapydd, therapyddion galwedigaethol a nyrsys arbenigol o'r bwrdd iechyd lleol, y gallwn gysylltu â hwy am gymorth a chyngor ar unrhyw adeg. Mae pob un o'n preswylwyr wedi'i gofrestru â meddyg teulu a chynigir gwasanaethau optegydd, podiatrydd/ciropodydd a deintydd iddynt hefyd. Mae darparu amgylchedd sy'n ddwyieithog ac â ffocws diwylliannol o ran anghenion y preswylwyr yn allweddol i'r cartref. Mae'r holl breswylwyr, teuluoedd a gofalwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan wrth ddatblygu eu llyfr cofio eu hunain am eu bywyd. Rydym yn gweithio ar ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan archwilio gweithgareddau sy'n diwallu anghenion a chwrdd â diddordebau pob preswylydd.
Photos
Map
Address
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.