-
Mae Pembroke Haven (Residential Homes) Ltd yn fusnes teulu lleol ac annibynnol sydd wedi bod yn darparu cymorth a gofal i'r henoed am dros 40 mlynedd. Mae'r cartref wedi'i adeiladu'n bwrpasol ac yn darparu lleoliad gofal preswyl ar gyfer pobl hŷn. Wedi'i leoli yn ardal Llanion yn Noc Penfro, mae'r cartref wedi’i leoli ar safle amlwg iawn sy'n edrych dros ddyfrffordd Aberdaugleddau. Mae Pembroke Haven yn darparu gofal preswyl i'r rheiny... Gweld Lleoliad
-
Mae Affalon House yn adeilad cyfnod dau lawr deniadol, a gofrestrwyd yn gyntaf fel cartref gofal gyda nyrsio ar 11 Awst 1989. Mae wedi'i leoli'n agos i ganol tref Llanelli ac mae modd ei gyrraedd yn hawdd drwy drafnidiaeth gyhoeddus a chysylltiadau ffyrdd ardderchog, gan gynnwys yr M4. Mae cymuned Gymreig glos ble mae gwerthoedd teulu traddodiadol yn parhau'n gryf ac mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf i nifer o aelodau'r gymuned. Mae nifer o'r ... Gweld Lleoliad
-
Mae Brynhelyg wedi'i leoli ar dir preifat eang ym mhentref Bynea, pedair milltir o ganol tref Llanelli. Mae wedi'i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i ddarparu ar gyfer 25 o breswylwyr sydd ag amrediad o anghenion, yn amrywio o rhai preswyl, henoed bregus eu meddwl, anhwylderau iechyd meddwl, nam ar eu golwg a chlyw, bregus a methedig, gyda chymorth ar gyfer anghenion meddygol arbennig. Rydym yn darparu gwasanaeth ar gyfer 12 preswylydd ... Gweld Lleoliad
-
Mae cartref preswyl henoed Cartref wedi ei leoli yn mhentref Henllan yn Nyffryn Teifi, tua 3 miltir o dref Gastell Newydd Emlyn. Yn agos i’r cartref mae yna Swyddfa Bost a Gorsaf Trên Bro Teifi. Mae Cartref yn darparu amgylched chartrefol, hamddenol a diogel i’w preswylwyr, gyda’u gofal, lles a chysur o’r pwysigrwydd pennaf. Mae ein staff hyfforddiedig yn ymdrechu I gadw a chynnal urddas, hunaniaeth a phreifatrwydd bob preswylydd o ... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Gofal Preswyl Llys y Bryn yn gartref gofal pwrpasol yng nghymuned y Bryn/Llwynhendy, Llanelli. Lleolir y Cartref mewn ardal breswyl ac mae canolfan tai gwarchod (TÅ·'r Gelli) a chyfleuster gwasanaeth dydd (Gwasanaethau Dydd Croesffyrdd a Llys y Bryn) yn gysylltiedig ag ef. Adeiladwyd y Cartref gwreiddiol ar ddiwedd y 1980au ac mae wedi elwa ar raglen o waith gwella ac ailddatblygu. Ychwanegwyd estyniad yn 2007. Mae Llys y Bryn wedi... Gweld Lleoliad
-
Mae Melbourne House wedi bod yn gartref preswyl y sefydliad ers 1996. Mae'r tîm gofal yn ymfalchïo mewn cynnig gwasanaeth gofal proffesiynol iawn ar gyfer yr henoed, gyda dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach na'r rheswm ei fod mewn lleoliad gofal. Mae Melbourne House yn falch o ddarparu ar gyfer pobl y mae arnynt angen gofal hirdymor, gofal byrdymor a hefyd gofal seibiant. Mae pentref Cross Hands yn cynnig digonedd o s... Gweld Lleoliad
-
Mae Waungron yn gyn-breswylfa Sioraidd bonheddwr, a leolir mewn pedair erw ar ddeg o gefn gwlad hardd Sir Benfro sy'n edrych dros dref hynafol Hendy-gwyn ar Daf gyda golygfeydd godidog at Fynydd Preseli. Wedi'i gofrestru ar gyfer 15 o breswylwyr hÅ·n, rydym yn gartref bach "tebyg i deulu" sy'n anelu at hyrwyddo annibyniaeth tra bo'n parchu anghenion corfforol, emosiynol ac ysbrydol unigolion. ... Gweld Lleoliad
-
CYFLWYNIAD Mae Abermad wedi'i leoli ar ei diroedd preifat ei hun ar gyrion pentrefi Llanfarian a Llanilar, i'r de ond o fewn mynediad hawdd i Aberystwyth a'r holl amwynderau a gynigir yno. Adeiladwyd Abermad yn 1870 fel plas preifat ac, erbyn hyn, mae'n adeilad rhestredig Gradd II. Defnyddiwyd yr adeilad fel ysgol breifat am nifer o flynyddoedd cyn cael ei droi’n gartref nyrsio ryw 30 a mwy o flynyddoedd yn ôl. Kim McKay yw perchennog y b... Gweld Lleoliad
-
Mae Carlton House yn gartref gofal preswyl mewn safle aruchel gyda golygfeydd panoramig dros bentref Llan-non a Bae Ceredigion. Mae'r lawntiau a'r gerddi yn y blaen a'r cefn yn ddelfrydol ar gyfer eistedd yn yr awyr agored yn ystod misoedd yr haf. Ceir 16 ystafell wely, ac mae cyfleusterau en suite yn y rhan fwyaf, yn ymestyn dros dri llawr. Ceir lifftiau i deithwyr i bob llawr. Rydym wedi creu ymdeimlad gwirioneddol o "gartref oddi cartref" a... Gweld Lleoliad
-
Mae Ashley Court Care yn gartref sy'n cynnwys 47 gwely ac yn eiddo i Premier 1 Healthcare. Mae'r cartref wedi'i leoli yng nghanol tref Llanelli ac o fewn deg munud ar droed i siopau ac amwynderau. Mae cysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus gwych â'r cartref. Yn Ashley Court Care, mae ein prif bwyslais ar ansawdd bywyd cleient. Ein hethos yw, os yw person yn heini, yn fodlon ac yn mwynhau ei fywyd o ddydd i ddydd, bydd yn byw bywyd llewyrchus hi... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartrefi Gofal Plas Cwmcynfelin Ltd yn wasanaeth gofal teuluol ger Clarach, tua dwy filltir o dref prifysgol a chyrchfan glan-y-môr Aberystwyth. Mae'r cyfadeilad yn cynnwys dau adeilad, sef y prif dŷ a'r coetsiws, ac mae'r ddau'n cynnig gofal nyrsio. Gallwn ddarparu llety ar gyfer hyd at 55 o bobl sy'n 40 mlwydd oed ac yn hŷn gydag anghenion gofal nyrsio: 33 yn y prif dŷ a 22 yn y coetsiws. Mae'r prif dŷ (Plasty Cwm) a'r coetsiws wedi'... Gweld Lleoliad
-
Mae Hollyland Lodge yn gartref preswyl bach a chroesawgar yng nghanol ardal hanesyddol Penfro wrth ymyl Parc Cenedlaethol hyfryd. Wedi'i leoli'n agos i amwynderau lleol, gwasanaethau trafnidiaeth a lleoedd parcio i ymwelwyr, mae Hollyland Lodge yn lle delfrydol. Rydym yn cynnig awyrgylch cartrefol go iawn gyda gofal 24 awr y dydd i'n preswylwyr. Mae ein staff wedi'u hyfforddi'n dda ac yn hynod o brofiadol ac maent yn sicrhau amgylchedd cyfeillg... Gweld Lleoliad
-
Cyfleuster pwrpasol a agorodd yn 2006 gan ddisodli’r Cartref gwreiddiol a oedd wedi bod ar y safle ers y 1970au yw Maes Llewellyn. Mae’r Cartref wedi’i leoli oddi ar y brif stryd ym mhen pellaf Lôn yr Eglwys mewn gerddi deniadol drws nesaf i’r Parc. Mae’r Cartref wedi’i gofrestru i ddarparu llety ar gyfer hyd at 40 o bobl, gyda’r cyfleusterau wedi’u rhannu’n 5 uned dros ddau lawr. Ar y llawr gwaelod mae 8 gwely yn Uned Cawdo... Gweld Lleoliad
-
Mae prif athroniaeth ein gofal ym Maes y Felin yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cefnogi iechyd corfforol, meddyliol a lles emosiynol preswylwyr, trwy hyrwyddo annibyniaeth a hawliau, i sicrhau bod gan drigolion lais a rheolaeth dros eu bywyd o ddydd i ddydd. Mae preswylwyr yn cael eu trin â pharch ac urddas lle mae practis yn sicrhau bod pob unigolyn yn cael ei ddiogelu rhag camdriniaeth neu esgeulustod ac yn cael cymorth i ddatblygu ei botensial ... Gweld Lleoliad
-
Mae Belmont Court yn Ninbych-y-pysgod, tref glan môr prydferthaf Cymru siŵr o fod. Cafodd Dinbych-y-pysgod ei sefydlu gan y Normaniaid fel tref gaerog. Mae Belmont Court yn agos at yr holl amwynderau lleol a cheir mynediad hawdd i gyfleusterau hamdden, bwytai a digonedd o gaffis ar hyd strydoedd cul, llawr cobls tref Dinbych-y-pysgod ei hun. Mae Belmont Court yn dŷ crand deniadol mewn lleoliad penigamp lle ceir golygfeydd godidog o draeth y De... Gweld Lleoliad
-
Mae Llys Fechan yn gartref preswyl dan berchnogaeth teulu sydd wedi'i leoli ym mhentref Cross Hands. Cofrestrwyd y cartref ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o dan berchnogion presennol Andrew a Joanna Miles ym mis Awst 2007, er mwyn darparu gofal i 18 o breswylwyr, dynion a menywod, sy'n hŷn na 65 oed. Mae'r cartref, sydd wedi ei adeiladu’n bwrpasol, wedi'i leoli ar erw o dir amaethyddol gyda digon o ardaloedd i eistedd yn yr awyr agored i b... Gweld Lleoliad
-
Cartref Gofal TÅ· Mair Mae TÅ· Mair wedi ymrwymo'n ddwfn i ddarparu gwasanaeth personol a gofalgar o ansawdd uchel. Ein nod yw creu amgylchedd diogel a gofalgar lle gall preswylwyr deimlo'n hyderus y bydd y gofal y maent yn ei dderbyn yn helpu i'w galluogi i fwynhau eu bywydau'n llawn. Rydym wedi ein lleoli yn ardal breswyl dawel Felinfoel, ar gyrion tref Llanelli. Mae arhosfan bysiau yn union y tu allan i'r cartref ac rydym yn agos at gys... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Gofal Woodland Lodge yn gartref gofal preswyl cyfeillgar bach i'r henoed, sy'n gofalu am 19 o drigolion, sydd ar gyrion tref poblogaidd Dinbych-y-pysgod. Lleolir y cartref yng nghanol ardal dwristaidd fawr, yr ydym yn manteisio'n llawn ohoni, trwy fynd â thrigolion i atyniadau amrywiol a mannau harddwch. Mae Woodland Lodge yn eiddo preifat, ac mae gan y cyfarwyddwyr dros ugain mlynedd o brofiad yn y busnes gofalgar, ac maent yn ymro... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Gofal Towy Castle yn blasty o'r ddeunawfed ganrif sydd wedi'i drawsnewid yn hardd a'i leoli mewn tair erw o diroedd preifat gyda golygfeydd godidog o aber afon Tywi o'i amgylch. Mae'r cartref a gaiff ei redeg gan deulu yn darparu amrediad o becynnau gofal hyblyg a phwrpasol ar gyfer gofal preswyl hirdymor a gofal dydd. Yn ogystal, ychwanegwyd uned gofal dementia arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol i'r cartref yn 2012. Mae'r staff y... Gweld Lleoliad
-
Mae Cartref Gofal Blaenmarlais yn blasty Cymreig traddodiadol wedi'i leoli ar ei erddi â wal o'u cwmpas a lawntiau aeddfed ei hun o ryw ddwy erw a hanner ychydig y tu allan i dref farchnad Arberth. Ein nod yw darparu gofal o safon wedi'i ddarparu gan bersonél o safon o fewn cyffiniau o safon. Rydym wedi ein cofrestru gydag AGC ar gyfer 24 unigolyn, mewn ystafelloedd sengl en suite. Mae Blaenmarlais yn rhan o fusnes teuluol ac mae’n gallu c... Gweld Lleoliad
-
Grwp o wragedd a gafodd y weledigaeth o sefydlu cartref henoed i'r Bedyddwyr a chefnogwyd eu dyhead gan fudiad Chwiorydd Undeb Bedyddwyr Cymru. Gwireddwyd eu gweledigaeth pan agorwyd Cartref Glyn Nest yn 1970. Fe'i lleolir mewn man dymunol ac mae'n gyfleus i'r dref. Cwblhawyd estyniadau sylweddol yn 1992 a 2009. Mae 28 o welyau cofrestredig yng Nglyn Nest yn cynnwys gwelyau i'r henoed sy'n dioddef o ddementia. Mae'r cartref yn croesawu pobl ... Gweld Lleoliad
-
Rydym yn gartref sy'n cefnogi amrediad o anghenion gofal henoed. Ceir pedair ward, yn cynnwys ward ysbyty ar gyfer deg unigolyn, un arall sy'n cynnig cyfadeilad cymorth un-i-un ar gyfer gofal seibiant, un arall sy'n cefnogi problemau iechyd meddwl, a'r olaf ar gyfer pobl fregus. Mae ein gweithlu wedi'i hyfforddi'n llawn gyda llawer o wobrwyon (rhai yn ddigymell), gan adlewyrchu ein gallu i ymateb i gynllun gofal personol pob preswylydd newydd. Ma... Gweld Lleoliad
-
Mae Apley Lodge yn gartref gofal preswyl a leolir ynghanol Doc Penfro gyferbyn â’r brif orsaf reilffordd. Mae'r cartref yn elwa ar fod yn agos at y siopau a'r holl gyfleusterau lleol. Mae ein staff gofal amser llawn wedi cael eu hyfforddi i helpu'r rhai sy'n cael trafferthion ymdopi gartref ar eu pennau eu hunain ac sydd angen y diogelwch a geir yn sgil cael rhywun i'w cynorthwyo gyda'u bywydau dyddiol. Gallant gynorthwyo gyda gwisgo, ymolc... Gweld Lleoliad