Care Home Category: Residential
Croeso i Gartref Preswyl Annedd
Mae Annedd yn gartref preswyl bach a chyfeillgar sydd wedi cael ei adnewyddu'n llwyr yn ddiweddar gan y perchnogion presennol. Mae Annedd wedi'i leoli yn ardal drefol a thawel tref farchnad fach Llanybydder, sy'n agos at afon Teifi yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r cartref wedi'i leoli ar ei dir ei hun gyda golygfeydd gwledig o’r cefn gwlad cyfagos, ond o fewn cyrraedd hawdd at amwynderau lleol a gwasanaethau cymunedol.
Mae Annedd wedi'i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), AGGCC cyn hynny, o dan delerau Deddf Safonau Gofal 2000, i ddarparu 27 gwely gofal personol gyda chyfleusterau en suite ar gyfer pobl dros 55 mlwydd oed sydd wedi cael diagnosis o ddementia i ryw raddau. Mae hyn hefyd yn cynnwys hyd at bum oedolyn sydd ag anabledd dysgu bach i gymedrol ac a allai hefyd fod yn dangos symptomau o salwch sy’n gysylltiedig ag oedran, gan gynnwys dementia.
Defnyddir tair ystafell sy'n fwy o faint ar gyfer pobl y mae angen cadair olwyn neu declyn codi arnynt ar gyfer cymorth.