Care Home Category: Residential
Mae Apley Lodge yn gartref gofal preswyl a leolir ynghanol Doc Penfro gyferbyn â’r brif orsaf reilffordd. Mae'r cartref yn elwa ar fod yn agos at y siopau a'r holl gyfleusterau lleol.
Mae ein staff gofal amser llawn wedi cael eu hyfforddi i helpu'r rhai sy'n cael trafferthion ymdopi gartref ar eu pennau eu hunain ac sydd angen y diogelwch a geir yn sgil cael rhywun i'w cynorthwyo gyda'u bywydau dyddiol. Gallant gynorthwyo gyda gwisgo, ymolchi a materion hylendid personol eraill.
Mae system galw nyrs yn sicrhau bod pob preswylydd yn gallu galw am gymorth 24 awr y dydd o unrhyw ystafell yn y cartref.
Nid yn unig y cyfleusterau a'r staff sy'n gwneud Apley Lodge yn gartref. Credwn ei fod yn bethau na ellir eu gweld, sef y cynhesrwydd, yr awyrgylch cyfeillgar, y parch tuag at urddas yr unigolyn, a gofal a charedigrwydd gan staff profiadol. Dyma'r egwyddorion rydym yn gobeithio y bydd ein holl breswylwyr yn teimlo sy'n gwneud Apley Lodge eu cartref gwirioneddol eu hunain.
Fe’ch gwahoddir i ymweld â'r cartref i weld drosoch eich hun beth y gallwn ei gynnig.
Byddai'r perchennog a'r rheolwr yn falch o drefnu cyfarfod i drafod eich anghenion yn gyfrinachol, neu eich tywys o gwmpas y cartref yn unig.