Care Home Category: Residential
Mae Cartref Gofal Brynderwen yn gartref preswyl a leolir ar gyrion tref Caerfyrddin. Mae'r cartref mewn pum erw o diroedd hardd mewn lleoliad tawel, lled wledig.
Mae gan y cartref 32 ystafell wely ac mae'n darparu'r lefel uchaf o ofal a chymorth i bobl sydd fel arfer dros 65 oed ac sydd ag anghenion iechyd amrywiol, gan gynnwys unigolion sydd wedi cael diagnosis o ddementia.
Mae'r cartref yn eiddo i Mr Tudur Williams a chaiff ei reoli gan Andrea Williams, sy'n nyrs gofrestredig. Mae gan Andrea nifer o flynyddoedd o brofiad o ofalu am oedolion hŷn. Mae'r tîm staff ym Mrynderwen yn ffurfio tîm effeithlon a chefnogol sy'n galluogi'r safonau cymorth uchaf bob amser.