Care Home Category: Residential
Mae Cartref Preswyl Tregerddan wedi'i leoli ym mhentref Bow Street, i'r gogledd o Aberystwyth. Mae'r cartref preswyl wedi'i leoli o fewn pellter cerdded byr i siop y pentref, llwybrau bysiau ac amwynderau lleol eraill.
Mae'r cartref yn cynnig 28 o leoedd preswyl, gan gynnwys rhai tymor byr, dros dro, parhaol a gofal seibiant. Caiff ystafelloedd gwely eu lleoli ar ddau lawr. Rydym hefyd yn darparu nifer bach o gyfleoedd gofal dydd.
Rydym yn darparu gofal a chymorth preswyl i bobl hŷn sydd ag amrywiaeth o anghenion cymhleth, a allai gynnwys dirywiad gwybyddol sy’n gysylltiedig ag oedran a diagnosis cynnar o ddementia.
Mae'r cartref yn gweithio'n agos gyda’r meddygon teulu, nyrsys ardal, ffisiotherapydd, therapyddion galwedigaethol a nyrsys arbenigol o'r bwrdd iechyd lleol, y gallwn gysylltu â hwy am gymorth a chyngor ar unrhyw adeg. Mae pob un o'n preswylwyr wedi'i gofrestru â meddyg teulu a chynigir gwasanaethau optegydd, podiatrydd/ciropodydd a deintydd iddynt hefyd.
Mae darparu amgylchedd sy'n ddwyieithog ac â ffocws diwylliannol o ran anghenion y preswylwyr yn allweddol i'r cartref. Mae'r holl breswylwyr, teuluoedd a gofalwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan wrth ddatblygu eu llyfr cofio eu hunain am eu bywyd. Rydym yn gweithio ar ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan archwilio gweithgareddau sy'n diwallu anghenion a chwrdd â diddordebau pob preswylydd.