Care Home Category: Residential
Mae Dolyfelin yn gartref gofal pwrpasol a agorwyd yn y 1970au. Dros y blynyddoedd mae wedi elwa ar waith gwella ac adnewyddu sylweddol gan ymdrechu bob amser i gynnal llety a chyfleusterau o safon dda i ddiwallu anghenion gofal a chwrdd â disgwyliadau'r bobl sy’n byw yno.
Mae'r Cartref wedi'i gofrestru i ddarparu gofal a chymorth ar gyfer hyd at 33 o bobl ar sail dros dro neu barhaol. Mae hyn yn cynnwys darparu 1 wely seibiant, 8 gwely ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia isel neu gymedrol a 24 gwely preswyl cyffredinol. Mae'r llety yn cael ei ddarparu ar ddau lawr a lleolir mwyafrif helaeth yr ystafelloedd gwely a'r mannau cymunol ar y llawr gwaelod.
Mae Dolyfelin yn ymfalchïo yn ei enw da am ddarparu gofal a chymorth o safon uchel i ddiwallu anghenion a dymuniadau unigol. Mae gan y Cartref reolwr a thîm ymroddedig a phroffesiynol o staff sy'n gweithio'n egnïol i sicrhau bod hyn yn cael ei gynnal a bod Preswylwyr yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus yn eu cartref.