Care Home Category: Residential

Agorodd Erwhir fel cartref i'r henoed ym mis Mai 1988. Mae'n adeilad mawreddog sydd ar ei dir ei hun yn agos at ganol y dref. Er ei fod wedi'i adeiladu'n wreiddiol yn ystod blynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf fel dau dŷ pâr, mae wedi'i foderneiddio'n drwyadl ac, o'r tu allan, mae'n ymddangos fel pe bai'n un adeilad erioed. Mae gwres canolog yn y cartref a gosodwyd lifft er mwyn galluogi defnyddwyr gwasanaeth ac ymwelwyr sy'n cael anawsterau gyda'r grisiau i deithio rhwng y llawr daear a'r llawr uchaf. Ceir unedau ymolchi, pwyntiau teledu a system alw ymhob un o'n hystafelloedd er mwyn galw am gymorth ar unrhyw adeg. Ceir heulfan y gall y defnyddwyr gwasanaeth eistedd ynddi a mwynhau heulwen gyda'r nos. Mae'r ardal hon hefyd yn lle delfrydol i eistedd ar eich pen eich hun neu gyda pherthnasau a ffrindiau ac mae'n rhoi mynediad i'r ardal ddeciau. Darperir un ystafell ddwbl a 13 ystafell sengl rhwng lefel y llawr daear a'r llawr cyntaf. Os yw defnyddwyr gwasanaeth yn dymuno darparu rhai o'u darnau dodrefn eu hunain, gallai hyn gael ei drafod cyn preswylio a byddwn yn ceisio trefnu hyn lle bynnag y bo'n bosibl. Mae gennym ystafell fwyta gartrefol lle y gellir mwynhau prydau bwyd yn gyfforddus ond gall defnyddwyr gwasanaeth fwyta eu prydau bwyd yn eu hystafelloedd eu hunain os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Rydym yn agos at yr orsaf reilffordd, siopau, swyddfa'r post, meddyg teulu, arosfannau bysiau a sefydliadau cymdeithasol amrywiol. Cofrestrwyd Erwhir gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer 15 o bobl hŷn. Wrth i bobl heneiddio, maent yn ei gweld yn fwyfwy anodd ymdopi ar eu pennau eu hunain a delio â phwysau a phryderon bywyd modern, ac o ganlyniad maent yn dod yn ddibynnol ar berthnasau a ffrindiau. Gan fod pobl heddiw yn dueddol o fyw yn hŷn, mae'r perthnasau a ffrindiau eu hunain yn mynd yn hŷn ac yn gweld gofalu am anwylyn yn anodd. Ein nod yw ceisio cael gwared ar anawsterau o'r fath ac edrych ar ôl eich anghenion a gofalu amdanoch 24 awr y diwrnod, saith diwrnod yr wythnos cyhyd ag y byddwch yn dymuno aros gyda ni, boed hynny am dymor byr neu'r hirdymor. Rydym wedi meithrin llawer o brofiad o redeg cartref ar gyfer yr henoed, ond yma yn Erwhir rydym yn cael ein cynorthwyo'n fedrus gan staff gofalgar, cydwybodol a chyda'n gilydd byddwn yn diwallu eich anghenion. Wrth wneud hyn, rydym yn ymdrechu i wneud eich bywyd mor foddhaus â phosibl a chynnal eich urddas. Ac eithrio sychlanhau, mae'r holl olch yn cael ei wneud ar y safle heb gost ychwanegol i'r defnyddwyr gwasanaeth. Mae llyfrgell deithiol yn darparu detholiad o lyfrau print bras a bach yn ogystal â llyfrau llafar a thapiau cerddoriaeth, sy'n ailstocio ein llyfrgell ein hunain. Mae nyrsys ardal, ciropodydd, deintydd ac optegydd yn ymweld. Hefyd mae gennym driniwr gwallt ein hunain sy'n ymweld, er bod defnyddwyr gwasanaeth yn rhydd i ddefnyddio eu triniwr gwallt eu hunain os oes yn well ganddynt. Mae cwmni dillad symudol yn ymweld ac rydym yn annog ffrindiau a theulu i fynychu a'i wneud yn achlysur pleserus a chymdeithasol. Rydym o'r farn ei fod o gymorth ystyried y tri mis cyntaf fel cyfnod prawf er mwyn caniatáu i ddefnyddwyr gwasanaeth ymgartrefu. Mae yr un mor bwysig adolygu anghenion a dyheadau unigolion yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y gofal priodol yn cael ei ddarparu. Mae ein ffi wythnosol yn cynnwys pob pryd bwyd a golch. Rydym yn fodlon darparu gwasanaethau sychlanhau, papurau, cylchgronau, gwinoedd, gwirodydd, tybaco a phethau ymolchi ar gost ychwanegol, a gellir trafod y rhain i gyd cyn dechrau preswylio. Nid ydym fel arfer yn darparu trafnidiaeth, ond byddwn yn ceisio cynorthwyo mewn amgylchiadau penodol. Byddai tâl ar gyfer y gwasanaeth hwn. Mae digwyddiadau cymdeithasol/adloniant wedi bod mor boblogaidd fel eu bod bellach yn digwydd yn rheolaidd.
Photos
Map
Address
  • No Records Found

    Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.

    Google Map Not Loaded

    Sorry, unable to load Google Maps API.