Care Home Category: Residential
Grwp o wragedd a gafodd y weledigaeth o sefydlu cartref henoed i'r Bedyddwyr a chefnogwyd eu dyhead gan fudiad Chwiorydd Undeb Bedyddwyr Cymru. Gwireddwyd eu gweledigaeth pan agorwyd Cartref Glyn Nest yn 1970. Fe'i lleolir mewn man dymunol ac mae'n gyfleus i'r dref. Cwblhawyd estyniadau sylweddol yn 1992 a 2009. Mae 28 o welyau cofrestredig yng Nglyn Nest yn cynnwys gwelyau i'r henoed sy'n dioddef o ddementia. Mae'r cartref yn croesawu pobl dros 65 mlwydd oed sy'n dymuno derbyn gofal preswyl.
Mae'r ffioedd yn amrywio yn ol anghenion unigol a byddant yn cynnwys yr holl gostau gofal a llety, bwyd a diod, gwres a golau, a'r golch a wneir ar y safle. Gellir cael mwy o wybodaeth ar gais.
Elusen a weinyddir gan Gwmni Ymddiriedolwyr Glyn Nest Cyfyngedig.
Rhif y Cwmni: 5940276. Rhif Elusen: 1160563.